Y DRYSORFA : YN CYNNWYS AMRYWIAETH O BETHAU AR AMCAN CREFYDDOL, YN ATHRAWIAETHOL, YNGHYDA HANESIAETH CENHADOL A GWLADWRIAETHOL, AC AMRYWIOL GYFANSODDIADAU MEWN BARDDONIAETH A PHERORIAETH. A GYHOEDDWYD DAN OLYGIAD Y TREFNYDDION CALFINAIDD, GAN JOHN PARRY. LLYFR VII. CAERLLEON: ARGRAFFWYD GAN J. ▲ J. PARRY. MDCCCXXXVII. RHAGYMADRODD: NEU Lythyr y Cyhoeddwr at ei Gydwladwyr y Cymry. GAREDIG GYDWLADWYR. Wrth gyflwyno y Seithfed Gyfrol hon wedi ei chwbleiddio fel hyn, i'n darllenwyr, nis gallwn lai na chydnabod mawr ddaioni Duw tuag attom, yn bersonol, yn eglwysig, ac yn wladol, yngorph y flwyddyn a aeth heibio. Mae holl drefniadau Rhagluniaeth yr Hollalluog yn ddoeth, yn gyfiawn, ac yn dda. Ac er fod yn fynych gymmylau a thywyllwch ynymddangos i ni o'i amgylch ef, etto amlwg yw, mai cyfiawnder a barn, neu uniondeb, yw trigfa ei orseddfaingc ef. O'i amgylch y mae y tywyllwch, ond y mae hi yn oleu ar yr Orsedd. Dat. iv. 3, 5. Fe fu y flwyddyn hon yn un nodedig i Frydain, canys ynddi y bu farw ein Hardderchog Frenin William IV. o barchus goffadwriaeth ; ac ynddi gosodwyd arnom Frenhines ieuanc, deunaw oed. Hefyd, digorphorwyd y Senedd Ymerodrol; a dewiswyd o newydd Aelodau Tŷ y Cyffredin. Ynddi y bygythiwyd newyn tost mewn un dosparth o'r deyrnas; pryd y dangoswyd tosturi, haelioni, ac elusengarwch cristionogaidd a diledrith tuag at y trueiniaid yn eu gwasgfa a'u cyfyngder. Yn nechreu y flwyddyn tarawyd, nid yn unig Brydain, ond cenhedloedd ereill lawer hefyd, â chlefyd yr Influenza, yr hwn a laddodd rai cannoedd yn y deyrnas hon, ac a adawodd effaith wanhaol ar ansawdd cyrph amryw sydd yn fyw. Ond yn y pethau hyn oll, cofio trugaredd a wnaeth yr Arglwydd, ac ysgafnhau ei law gospedigaethol, ac adferu i ni iechyd a chysur. Bygythiwyd ni hefyd, yn nechreu y tymhor, â gwlawogydd oerion a hîn annhymherus, fel yr oeddym yn ofni prinder ymborth dyn ac anifail; ond Duw, yr hwn sydd yn hoffi trugarhau, a drodd ei law yn nghyfnewidiad yr hin, ac agos mewn modd gwyrthiol a barodd i'r ddaear dyfu a dwyn ffrwyth toreithiog iawn. Cawsom hefyd hîn rhagorol o addas i gasglu y cyfan dan dô. 'O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddod au i feibion dynion.' Y diwygiad mewn cynnydd cymmedroldeb, ac yn enwedig mewn Ilwyddiant Cymdeithasau Dirwest sydd wedi enwogi y flwyddyn ddiweddaf. Mae llwyddiant y Cymdeithasau mor gynnyddfawr, fel y mae yn rhaid i bob dyn ystyriol ddywedyd, 'O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.' Pwy all lai na chydnabod hefyd ddaionus law Duw tuag attom fel cenedl yn yr heddwch cartrefol, a'r llonyddwch gwladol, ydym yn fwynhau drwy holl ororau y Deyrnas Gyfunol. Mae yn ddigon amlwg fod cynnydd ar wybodaeth a chrefydd yn Nghymru, a'r Efengyl yn llwyddo mewn amrywiol barthau pellenig y byd. Mae yr aml weddiau a'r taerion erfyniau sydd yn cael eu hanfon i'r nefoedd am dywalltiadau helaethach o'r Yspryd Glan yn sicr o lwyddo, canys yn ei iawn bryd y medwn oni ddiffygiwn. Gwrandewir ni yn amser da Duw. Mae yr addewid wedi ei rhoddi i ni; a ffyddlawn yw yr hwn a addawodd, yr hwn hefyd a'i gwna. Mewn perthynas i'n Trysorfa, gallwn ddywedyd ei bod yn myned yn mlaen yn llwyddiannus, er cynnifer o Gyhoeddiadau misol sydd yn awr yn tramwy drwy y Dywysogaeth. Yr ydym yn canfod arwyddion amlwg fod rhyw awydd adnewyddol yn meddyliau rhai o'n prif Ohebwyr mewn deall a dawn ysgrifenu, am ein cynnorthwyo â'r goreuon Drysorau i gyflenwi ein tu dalenau y flwyddyn ddyfodol. Cymhellai y cyfryw rai ni, heblaw rhoddi annogaethau cyffredinol ar glawr y Drysorfa, i anfon at y cyfryw a feddynt dalentau buddiawl, yn bersonol, a hyny yn fynych, i erfyn eu cynnorthwy, yr hyn, yn ddinag a wnawn gyda'r awyddfryd mwyaf. Mae gwyr y pum talent yn gyffredinol, os ydynt weision 'da a ffyddlon,' a'u dwylaw yn llawn goruchwyliaeth, a'u hamser yn brin, ac oherwydd hyny, angenrhaid yw eu mynych goffa, a'u taer gymhell i roddi cynnorthwy at orchwyl tebyg i'r Drysorta. Dysgwylir drwy hynyma y ceir trysorau gwerthfawr ac addas at lenwi y Drysorfa, er lles cyffredinol i'n darllenwyr lliosog. Ac os gwrendy Gweinidogion yr Efengyl a Henuriaid Eglwysig ar ein dymuniad am ei chyhoeddi ymhob pulpud drwy Gymru, ceir gweled y lliosogir ei derbynwyr a'u darllenwyr yn ddirfawr. Nid ydym yn ceisio hyn ganddynt ond unwaith yn y flwyddyn. Eich cyfaill diffuant, JOHN PARRY. Caerlleon, Rhagfyr 1, 1837. DANGOSEG. Athrawon yr Ysgol Sabbathol, cymmwysderau angenrheidiol mewn TU DAL. 19, 298 365 .. Adolygiad y Wasg-- Trysorfa yr Athrawon 54, 150. Canau duwiol i blant 55. Cynnorthwy i'r Myfyriwr Ysgrythyrol 55. Pregethau y Parch. J. Hughes, y Bont 114. Pregethau y Parch. J. Jones, Edeyrn 115. Buchdraeth y Parch. George Whitfield, A.C. 185. Cydymaith i'r Ysgrythyr 280. Pregethau y diweddar Barch. D. Charles, Caerfyrddin Araeth-Ar Ddirwest Agoriad Capel-Capel y Goppa 122. Capel y Dyffryn 157. Capel St. Fagans America, newydd da o'r Anniolchgarwch, erchylldra Araeth y Frenhines Victoria ar ddigorphoriad y Senedd .. 49 51 366 84 337 107 .. 108 140 325 369 271 190, 285 227 253 294 Buchdraeth Cristionogol-John Wickliff 1. John Huss 33. Martin Luther 97, 129. John Calvin 161, 194. Ei Uchder Brenhinol Duc Kent 257. Dafvild Roberts, Bodrochwyn 259. Philip Melancthon Bwrdd yr Arglwydd, hunanymholiad wrth nesâu at Pistyll 85. Mary Jones, Hendre mawr 108. Ellinor Charles, Trewalchmai Casgliadau at y Genhadaeth Gartrefol yn Sir Drefaldwyn Cyfarfodydd crefyddol, Misol yr Abermaw 156. Blynyddol yn Prestatyn Canu Mawl, yr ordinhad a'r ddyledswydd o Cynghor meddygol-Rhag y ddannodd 30. mewn clust 217. Rhag y Rhyddni Cymdeithasfâau-Cofnodau un y Bala, 1836, 47. Llanfair 1836, 49, Caergybi, 175. Llanrwst 1836, 180. Y Bala 1837, 220. Penderfyniadau yn 223. Cofnodau un Dinbych 1837, 241. Cofnodau un y Bala 243. Cymdeithasfa y Wyddgrug 370, Cofnodau un Pwllheli, 1837.. 374 371 267, 306 Cofrestr o Enwau Gweinidogion a Phregethwyr-Sir Gaernarfon 118, 152, 284. 210 251 |