Page images
PDF
EPUB
[blocks in formation]

"Mynudun y dymuniadau,
Y sydd ini yn nesâu.”

Y da weithiwr gwr rhagorol,-adyn
Blinedig ryfeddol :

Gan Ner i'n adfer yn ol,
Mesurwyd cwsg amserol.

Melus wyr hoenus yr hunant,-trwy nôs
Tra yn iach y byddant:

Ac wedi, hwy a godant,

A'u gweithydd newydd ymwnant.

Y meddwyn wedi maeddu,—anufudd,
Yn afiach ben synu;

O gwesgir hwn i gysgu,

Bydd drannoeth yn wr coeth cu.

Dengys ein cwsg fod angau-yn nesu
Bob nos i'n pabellau;

-A'r dydd y sydd yn nesau,

Y byddwn yn y beddau.

Hafal foreuddydd hefyd-ein gelwir

O galon y gweryd:

Deuwn wrth udgorn diwyd,

Ar wyl fawr, i yr ail fyd.

Bob pryd gwyn ei fyd a f'o-yn gwylied A'i galon yn effro;

Dedwydd medd ei Arglwydd o

Gwelir

yr hwn sy'n gwylio.

[blocks in formation]

YR HANESYDD.

BUCH-DRAETH YR ANGHYDFFURF. weinidogaeth drwy ei oes mewn un man, ac

WYR.

Y PARCH. THOMAS VINCENT, M. A. Ganwyd y gwr parchedig hwn yn Hereford, yn mis Mai, 1634.

Yr oedd efe yn wr o dymher fwynaidd a gostyngedig, etto yn frwd-frydig a diwyd, ac yn yr amrafael amgylchiadau ei hyrddiwyd iddynt, dysglaeriai ei dduwioldeb yn nodedig. Llafuriodd lawer i ddysgu yr Ysgryth.. yrau, ac yr oedd yn meddu y Testament Newydd, a'r Salmau oll yn ei gôf: a mynych y dywedai wrth ei gyfeillion, iddo gymeryd y gorchwylyma arno, gan nas gwyddai yn amgenach na byddai i'r rhai a ddygasant ei bulpit oddi arno, ddwyn ei Feibl hefyd. Cyfrifid ef yn wr enwog a defnyddiol, nid yn unig gan ei blaid ei hunan, ond hefyd gan rai o wahanol olygiadau iddo.

66

Ar

yn y ddinas yn yr amgylchiad hwnw. Cyflwynasai ei hun a'i achos i Dduw mewn gweddi lawer gwaith; ac yr oedd wedi ymgyflwyno yn y modd difrifolaf i wasanaeth Duw ac eneidiau ei gyd-ddynion ar yr achlysur hwn: ac am hyny gobeithiai na fyddai i neb o honynt geisio gwanychu ei ddwylaw ef yn y gwaith. Wedi i'r gweinidogion oeddynt yn bresenol ei glywed ef, hwy a dystiasant eu boddlonrwydd a'u llawenydd unfrydol, a'u bod yn credu fod y peth oddiwrth Dduw; ac addawent gyduno yn eu gweddïau am nawdd a llwyddiant iddo. hyny, efe a aeth at ei waith yn llawen, ac a ymaflodd ynddo mewn gwroldeb, ac a lynodd wrtho mewn diwydrwydd. Parhäodd i bregethu bob Sabbath, mewn rhyw addoldy plwyfol yn y ddinas, tra y parhäodd yr haint. Ei destynau yn wastad oeddynt dra difrifol, a'i Yr oedd efe yn un o'r ychydig weinidog. ddull o ymdrin a hwy oedd ddwys a llym i'r ion hyny a arhosasant yn y ddinas, pan eithaf, " yn chwilio celloedd y bol." Ac yr oedd yr haint yn tramwyo ynddi, gan anadlu oedd effeithiau brawychus y farn oedd mor marwolaeth o barth bwy gilydd o honi, yn y amlwg o'u hamgylch, yn gwneuthur teimladflwyddyn 1665, ac a ddilynodd ei lafur gwein- au y pregethwr a'i wrandawwyr yn hynod idogaethol gyda diwydrwydd a zel mawr, yn effro a thyner, yn yr ymdriniaeth a'r gair. y tymhor adfydus hwn, yn gyhoeddus ac yn Yr ymholiad cyffredinol drwy yr wythnos a neillduol. Bu dros amser yn gynnorthwy- fyddai, pa le y byddai ef i bregethu y Sabwr gwresog i'r Parch. Mr. Doolittle, yn arol- bath dilynol, a thorfeydd lawer a'i dilynent, ygiad ei athrofa yn Islington, i'r hyn y gol- pa le bynag yr elai; a llawer a argyhoeddygid ef yn berchen cymhwysderau rhagorol. id bob odfa. Efe a ymwelai â phawb a anWrth weled fod yr haint yn cynnyddu yn fonent am dano, ac a ymdrechai i wneyd a y Brif ddinas, a bod prinder pregethu yn allai o les iddynt yn eu cyfyngder, yn enwmhlith y dinasyddion,gan fod llawer o'r gwein- edig i achub eu heneidiau o afael yr ailidogion wedi ffoi i'r wlad,efe a amlygodd i'w farwolaeth. A gwelodd Duw yn dda, gygyfaill, ei fwriad i adael yr athrofa, ac ymmeryd gofal neillduol am dano: oblegyd er roddi i ymweled a'r cleifion, a dysgu y rhai fod yr holl rai a fuont feirw o'r pla yn Lluniach yn yr amser cyfyng hwn. Ymdrechai dain y flwyddyn hon yn 68,596, ac er i Mr. Doolittle i'w berswadio i beidio meddwl saith feirw yn y tŷ lle yr oedd efe yn byw, am y fath anturiaeth beryglus; gan ddadleuetto efe a barhãodd mewn mwynhâd pernad oedd galwad am dano yno oddiwrth ragluniaeth, gan ei fod yn fuddiol mewn maes llafur arall; ac mai ei ddyledswydd yn hytrach oedd ymgadw rhag y fath berygl, fel, os gwelai Duw yn dda, y byddai o wasanaeth yspaid maith i'r oes oedd yn codi, yn y gorchwyl yr oedd eisoes mor fuddiol ynddo. Ond, gan nad ymfoddlonai ef i beidio, cydunasant i ofyn cynghor eu brodyr yn ac oddentu y ddinas, yn yr achos.

Wedi i Mr. Doolittle ddarlunio ei resymau yn helaeth ac amlwg, Mr. Vincent a hysbysai ei frodyr, ddarfod iddo ddwys ystyried y peth cyn dyfod i unrhyw benderfyniad; ddarfod iddo chwilio yn ofalus i ansawdd ei enaid ei hun, ac y gallai efe edrych yn gysurus yn wyneb brenin dychryniadau; medd

yliai ei bod yn llwyr angenrheidiol gweini
rhyw gymhorth ysbrydol i'r trueiniaid am-
ddifaid yn y brif ddinas
Nis gallai ganfod
un rhag-drem ar fod mor ddefnyddiol yn y

ffaith o iechyd yr holl amser; ac efe a fu yn dra defnyddiol drwy ei lafur diflin i gynnulleidfa luosog hyd y flwyddyn 1678, pan fu efe farw yn Hoxton. Llefarwyd ei bregeth angladdawl gan Mr. Slater.

Llyfrau a gyhoeddwyd ganddo:

[ocr errors]

A Spiritual Antidote for a dying Soul.God's Terrible Voice in the City by Plague and Fire.—Christ's certain and sudden ap.. pearance to judgement.-An answer to the sandy foundation of William Pen, the Quaker.-A defence of the Trinity.—Satisfaction by Christ, and the justification of sinners.— Wells of salvation opened: with advice to

young men.—An Explanation of the Assembly's Catechism.-The True Christian's Love of the Unseen Christ.-Sermons, &c.

MERTHYRDOD Y CRISTION TYRC- yn beth mor anghyffredinol i Dwrc gofleidio

AIDD.

Cristionogaeth, fel yr edrychai yr offeiriad ar ei ddeisyfiad fel magli'w fradychu ef i farwolaeth; a thaer attolygai ar y Twrc ymadael âg ef. Aeth Mustapha at un arall; ond hwnw hefyd a ymwrthodai âg ef, gan ddy. wedyd, "Er mwyn Duw, ewch oddiwrthyf fi."

Yr oedd dau o gyffeithwyr crwyn yn trigo yn ninas Smyrna oddeutu pymtheng mlynedd yn ol; enw un o honynt oedd Mustapha, yr hwn ydoedd briodor o ynys Mitylene, ac yr oedd yn Fahometan o enedigaeth a chrefydd, ond Braidd na suddai meddwl Mustapha mewn yn siarad yr iaith Roeg; enw y llall oedd anobaith, dan y digalondid a'r cyfyngder a Demetrius, gyd a'r hwn yr oedd brawd ieu- wasgai arno yn wyneb y gwrthodiad annysengach, o'r enw Californius; a'r rhai hyn gwyliadwy yma-Nid oedd ganddo bellach oeddynt Roegiaid Cristionogol o Athen. ond un man daearol i droi ei wyneb,---meddArferai y Twrc gyrchu i fasnachdy ei gym-yliodd am fynachod mynydd Athos, ac atydogion yn lled fynych, a chyfarfyddai a Chalifornius, bachgen ieuanc diddichell, tua phedair ar ddeg oed, yn darllen: a denid ei sylw arno yn nodedig.

Mustapha a ofynai iddo ryw ddiwrnod, pa lyfr yr oedd yn ei ddarllen: i'r hyn yr attebai y bachgen, mai yr Ysgrythyr Lân. Yna yr attolygai y Twrc ar y bachgen Groegaidd ddarllen rhyw gyfran o honaw, i'r hyn yr at ebai yntau yn ol ei symlrwydd arferol, "Nid felly; pe buasech yn Gristion, buasai y peth yn dra gwahanol." Yna y cyfododd y Twrc ac yr aeth ymaith, a Demetrius y Groegwr henaf, a geryddai ei frawd am ei ateb anystyriol, gan ddywedyd, "Pa beth a wnaethost? Pa fodd y beiddiaist son with Dwrc am iddo ef ddyfod yn Gristion? Oni wyddit ti y gallai ef achwyn arnom? Yna fe'n hanfonid i garchar ein dau; attafaelid ein meddiannau, a diehon mai marwolaeth a fyddai y canlyniad o'th anystyriaeth." Ar hyn, dechreuai y bachgen wylo yn chwerw, gan y gwyddai fod gan ei frawd seiliau cryfion i'w ofnau; oblegyd fod deddfau gormesol Twrci, yn cyfrif gwaith Cristion yn crybwyll wrth Fahomedan am ei grefydd yn drosedd, a'i waith yn crybwyll wrtho am adael Mahomedaniaeth, a chofleidio Cristionogaeth, a olygid yn gamwedd marwol. Daeth y Twre yn ol i'r masnachdy yn fuan, a thaer-gymhellai ei gyfaill ieuanc i fynegi iddo ef yr achos o'i ddagrau, felly pan aeth ei frawd allan, y bachgen a addefai y cyfan wrtho. "Ymdynghedaf yn enw pob peth sydd sanctaidd,” medd Mustapha, "nad achwynaf arnoch, yn unig attolygaf arnoch ddarllen ychydig o'ch llyfr i mi." Gwnaeth y bachgen hyn, a gwran. dawai y. Twrc gyd a'r astudrwydd mwyaf; ac o'r pryd hwn allan, efe a wyliai yn ei ffenestr, a chyn gynted ac y gwelai Demetrius yn myned allan, yntau a gyrchai at Californius ieuanc, i ymofyn am ychwaneg o hysbysiaeth. Treuliwyd pedwar mis yn y dull hwn, ac yn y cyfamser treiddiodd gair Duw i galon y Twrc, yr hwn a benderfynodd ymwrthod a'r au-grefydd Fahometanaidd, a chofleidio y grefydd Gristionogol. Gyd a'r amcan hwn, efe a roddes ei fasnach i fynu, ac a ymneillduodd at offeiriad Groegaidd oedd yn Smyrna, i'r hwn yr hysbysodd ei ddymuniad i gael ei fedyddio. Ond, y mae

[ocr errors]

ynt hwy.y wynebodd, gan ddysgwyl y derbynid ef gan rai o honynt hwy: ond, er eu bod hwy yn gorph lluosawg, pob un o honynt hwythau, fel offeiriaid Smyrna, a wrthodent wrando ar ei gais. Gwyddent hwy yn dda fod y Tyrciaid yn dra eiddigeddus o honynt hwy, ac am hyny yr oeddynt yn fwy gochelgar, rhag ofn i'r Mahometaniaid allu eu maglu drwy rai o'u hystrywiau.

Wedi ei droi allan o'r crefydd-dŷ, fel rhag rithiwr, efe a wynebodd at y meudwyod a anneddent yn yr ogofau, a'r celloedd sydd ar ystlysau y mynydd; a chyd a chalon drom, ac ysbryd isel, efe a aeth i drigle dyw ell hen feudwy, wrth yr hwn yr adroddai amgylchiadau ei argyhoeddiad a'i dröedigaeth, y modd yr aethai at yr offeiriaid Cristionogol i ddymuno cael ei fedyddio, a'u hymddyg iadau hwythau atto. Effeithiai ei adroddiad yn ddwys ar yr hen wr hybarch, etto, nid anturiai yntau gyflawni yr ordinhâd, gan ofn tramgwyddo y mynachod, a dichon ei fod yntau hefyd yn ammeu diffuantrwydd y Twrc. Wedi ei wrth-sefyll yma, efe a gyfeiriai ei gamrau tu ag ael y bryn yn drwm ei galon.

Offeiriad ieuanc, yr hwn a ddamweiniodd fod gyd a'r hen feudwy, a gynnygiai ei arwain ef drwy y goedwig, a defnyddiodd bob moddion yn ei allu i'w gysuro: ond ni fynai Mustapha wrando, ac efe a ymollyngodd i wylo yn chwerw yn ei gyfyngder; fel y toddodd calon yr Offeiriad gan yr olygfa, ac efe a gyfarchodd Mustapha gan ddywedyd, “A ydych chwi mewn gwirionedd yn dymuno yn ddiffuant gael dyfod yn Gristion?" Yntau a atebodd, "Onid yw fy nagrau hyn yn dangos i chwi ddidwyllder fy nymuniadau?" "Gan hyny, dilynwch fi," medd yr Offeiriad, "wele ogof, yn yr hon y cewch nodded, ac myfi a ddygaf i chwi ymborth bob dydd, ac a ymddiddanaf â chwi am natur Cristionog aeth:" felly y bu Mustapha yn yr ogof hon amryw fisoedd, a'r Offeiriad ieuanc yn dwyn ymborth beunyddiol, â chysur ysbrydol iddo.

Yn y cyfamser, yr hen feudwy, yr hwn a synasai wrth ddull brwdfrydig y Twrc,a ymofidiai yn fynych am iddo ei ollwng ef ymaith gyd a'r fath ymddangosiad diofal; ac efe a hysbysodd ei ofid i'r Offeiriad ieuanc un diwrnod, gan ychwanegu y buasai yn dda

ganddo weled y Twre unwaith yn rhagor. Yr Offeiriad ienane a wenai, ac a gynnygiai ei dywys ef i ymguddle y Twre. Yr oedd y cyfarfod yn un tra dymunol o bob tu, a derbyniwyd Mustapha i'r eglwys Gristionog ol yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny. Trigodd amrai flynyddoedd gyd a'i gyfeillion at fynydd Athos; ond ni adawai ei yspryd bywiog ef, iddo orphwyso yno. Yr oedd ganddo fam oedranus, a brawd yn Mitylene, ac yr oedd ei enaid yn sychedu am eu dwyn hwythau i wybodaeth o'r wir ffydd. Ar ol ystyried yn bwyllig, y perygl y gallai fyned iddo, efe a adawodd ei encilfa dawel a diogel, ac a gymerodd lestr yn hwylio tua Cydonia.

Preswylid y ddinas hon gan Roegiaid yn benaf, o leiaf nid oedd ynddi nemawr o Dyrciaid cyn y chwyldröad, oddieithr y rhai oeddynt mewn sefyllfäoedd swyddol. Un o'r rhai hyn a'i hadnabu ef wrth graith oedd ar ei dalcen ef, ac a barodd ei ddal pan oedd y llestr ar gychwyn tua Mitylene, ac a'i dygodd o flaen y barnwr. Addefodd Mustapha yn ddibetrus ei fod ef yn Gristion, ac a dystiodd y byddai farw yn hytrach na gwadu ei ffydd.

Archodd y barnwr ei ddwyn ef i'r carchar a'i roddi ar yr arteithglwyd; ond ymgadwai Mustapha yn ddiysgog dan yr arteithiau tostaf.

Daeth yr amgylchiad hwn yn adnabyddus drwy y dref yn fuan, a pharai gynnwrf nid bychan yn meddyliau y Cristionogion. Ac un Groegwr, o'r enw Georgius, yr hwn oedd yn cadw athrofa yn y lle, a gynnullodd ei ddysgyblion o'r dosparth cyntaf, yr hwn oedd gynnwysedig o wyr ieuaine tuag ugain oed, ac adroddai helynt drallodus y Twrc iddynt, gan eu hannog i ddwys weddïo drosto: "Ond" eb efe, "nid digon yw i ni weddio drosto; rhaid i ni ymdrechu i ymweled ag ef yn y carchar, i'w ddyddanu a'i gysuro ef. Pa un o honoch chwi a anturia ei fywyd yn y gorchwyl hwn?"

"Myfi, myfi," meddynt o bob cwr; ac ymrysonai yr ieuenctyd am yr anrhydedd o'r anturiaeth beryglus hon. Un John Skonzes, Atheniad ieuanc, a hònodd y flaenoriaeth o'r diwedd, gan mai un o'i gydwladwyr ef a fuasai yn foddion bendithiol yn llaw Duw, i argyhoeddi y Twrc ar y dechreu: felly y lleill a roddasant i fynu iddo ef, ac yntau a arferodd y ddyfais ganlynol i gael mynedfa i'r carchar. Skonzes a gymerodd arno agwedd gwneuthurwr pridd feini, ac a gymerodd y ffordd tua Magnesia, tra yr aeth Groegwr arall o'r un gelfyddyd at y barnwr, ac a gyhuddodd ei egwyddor-was o ddianc ym. aith rhyngddo â Magnesia, gan ddwyn swm o'i arian ef gyd ag ef. Gwnaed erlyniad di-oed, a daliwyd Skonzes, ac a'i dedfrydwyd i'w garcharu yn yr un carchar a Mustapha, gan nad oedd un carchar arall yn y dref.

Ond, pa fath oedd teimladau Skonzes, pan gánfu y Twrc druán? Gwelai Mustapha druan, a'i draed yn grogedig mewn rhaff wrth y nen-fwd, (ceiling) a'i ben yn llusgaw ár y llawr, wedi ymdreulio, a llwyr wanyehu dan y dirdyniadau. Ac yn y sefyllfa hono yr oedd i aros hyd oni ymwadai a Christionogaeth. Gydag anhawsder yr attaliai Skonzes ei lidiowgrwydd a'i dosturi; etto tybiai yn angenrheidiol celu ei deimladau dros yr amser presennol, ac felly ymdawelodd hyd hanner nos, pan, wedi gwylio hyd oni hunodd y carcharorion eraill oll; yna efe a ddynesodd yn ddystawaidd at y Twrc, ac å geisiodd ei gysuro, gan ei sicrhau o gydymdeimlad dwys ei gyd Gristionogion: ac mai en tosturi hwy tuag atto, oedd yr achos iddo ef geisio ei garcharu.

"Yr wyf yn ddiolchgar i chwi am eich cariad tuag attaf," medd y merthyr, "ond bendigedig fyddo Duw, nid oes arnaf angen calonogiad; myfi a barhâf yn ffyddlawn hyd y diwedd."

Cludwyd Mustapha i Gaer Cystenyn yn mhen ychydig ddyddiau, ac nid oedd pall ar gynnygion o wobrwyon, rhyddid, golud, a phriodferch hawddgar, a phob hudoliaethau iddo, i geisio ei ddenu i ymwrthod a Christionogaeth, a dychwelyd at y grefydd Fahometanaidd; ond ofer oedd y cyfan. Yna dychwelwyd i'w ddirboeni drwy arteithiau mwy annioddefol na'r rhai yr aethai danynt yn Cydonia; ond yr oedd y rhai hyn hefyd yn anallnog i siglo ei hyder Cristionogol. Yna dyfarnwyd ef i gael tori ei ben ymaith, a'r un nerth Hollalluog ac a'i cynhaliasai yn ei gyfyngderau blaenorol, a fu yn gynhalydd iddo yn ei awr olaf.

Adroddwyd yr hanes uchod wrth M. Fenger, Cenhadwr o Copenhagen, gan Roegwr o Smyrna, un o'r rhai oeddynt yn athrofa Georgius yn Cydonia, ac oedd yn dra hysbys o holl amgylchiadau marwolaeth Mustapha.

DAEARGRYN YN ZANTE.

Ynys Zante ydyw y brydferthaf a'r ffrwyth lonaf o'r holl ynysoedd Ionaidd; yr henafiaid a'i galwent 'yr ynys goediog,' ac felly. ei dynodir hyd heddyw; a'r teithydd a ga olygfa oludog o ireidd-dra deiliog ar ei ddynesiad atti, gwahanol iawn i'r olwg foelaidd sydd ar yr ynysoedd eraill yn moroedd Ionia, ac Egæa.

Mae yn gorwedd yn lled. 47° a hyd. 38.o Yn ol mesuriaeth diweddar ystyrir hi tua phedair milldir ar ddeg o hyd, ac wyth o led. Ei hinsawdd sydd dra thymherus, fel y mae' dan ei mantell flodeuog drwy y flwyddyn, a'i phrenau yn dwyn ffrwythau addfed ddwywaith yn y flwyddyn, yn Ebrill a Thachwedd.

Un o'i rhyfeddodau anianyddol hynottaf

yw y ffynnonau pŷg nodedig sydd ynddi. Mewn dyffryn yn agos i'r môr, y mae ceuedd eang, crwn, ac isel, fel pe buasai hen agorfa moel danllyd; yn yr hwn y mae amrafael ffynnonau, o'r rhai y mae math o sylwedd tra chyffelyb i bŷg llysieuawl yn cael ei fwrw i fynu yn barhaus. Ymofynid am y pŷg hwn, a defnyddid ef mor foreu a dyddiau Herodotus, megys yn yr oes bresennol. "Gwelais bŷg yu esgyn i fynu mewn llyn o ddwfr yn Zacynthus," eb efe," o'r rhai y mae llawer yn yr ynys, Cesglir y pŷg â changen o fyrtwydd wedi ei rhwymo wrth waewffon."

Y traddodiad cyffredinol yw, mai moel danllyd a fu y lle y mae y ffynnonau, eithr darfod i'r môr ruthro i mewn drwy un o'r ochrau, a diffodd y tan. Nid oedd yr ynys hon na'r rhai cymmydogol yn ddarostyngedig i gynhyrfiadau daear-grynfäawl y pryd hyny fel yn awr ; gan fod yr agerdd danllyd a genhedlid gan y defnydd ennynawl yn cael dianc drwy safn y llosg-fryn, mal trwy ddiogel-bib. Eithr wedi cau y genau hwn, cauid yr aw danllyd i fewn dan y cryn-swth gorlethawl, nes ei dyfod yn anorfodawl, a gweithio ei ffordd drwy bob rhwystrau, gan agor anadl-dyllau iddi ei hunan, ac yn ei hymdaith nerthawl crynai yr ynysoedd i'w canolbarth. Y ffynnonau pŷg oeddynt arwyddion parhaol o'r cyfryw fynedfäau, a'r craig-byg (petroleum) a defnyddiau ennynawl eraill, oeddynt ffurfiadau o'r defnydd hylosg oedd yn aros yn ei chrombil, â'r hwn y gwelid eu bod yn perthynu, oblegyd sylwyd fod pob crynfa yn cael ei rhagflaenu gan darddiadau cryfach o'r ffynnonau hyn, y rhai ydynt fel nodyddion naturiol er dangos i'r trigolion, gynhyrfiad a lleddfiad yr awon tanllyd yn y celloedd tan-ddaearol.

Tiriais yn Zante Rhag. 27. 1820., yn mysg dilynwyr swyddol Arglwydd Strangford, ac un o'm gorchwylion cyntaf oedd ymweled a'r ffynnonau hyny, yr hyn a wnaethum drannoeth yn nghwmni rhai cyfeillion: ein ffordd oedd yn ein harwain drwy ddyffrynoedd prydferth, wedi eu hamwisgo ag olewydd-lanoedd a gwinllanoedd, a naturiaeth fel yn gwenu o bob tu arnom. Fel yr oeddym yn nesâu at y ffynnonau, gorlanwyd ni å syndod gan yr olygfa o'n hamgylch; dyffryn y ffynnonau a gylchynid gan restr o fryniau crugawl, y rhai a ymgyfodent fel mur-glawdd ar dair ochr iddo, ac ar y bedwaredd ochr gellid dilyn y gweddill o'r cylch, yn y creigiau a ymgyfodynt uwchlaw y dwfr, ac ymddangosai fel pe buasai y mor wedi rhuthro i mewn ryw bryd, a dryllio y rhan hon o'r hen gaer naturiol, oddieithr ambelli gruglwyth trymach, a chryfach nac arall a adawsai o'i ol, fel cof golofnau oesawl o rym dinystriawl ei ruthr-gyrch. Y ddaear o fewn y cylch hwn oedd agos yn wastad, o natur gorsawg, wedi ei thry fritho â phlanhigion dyfrawl; eithr wedi ei harliwio

[ocr errors]

|

megys â dyfroedd a tharthion mwnawl. Yr oedd llawer o ffynnonau neu bydewau o fewn y dyffryn hwn; sylwasom ar un yn neillduol, yr hon oedd oddeutu naw troedfedd o dry. fesur, ac yn gylchynedig gan fur bychan: wyneb y dwfr yn y ffynnon oedd orchudd. iedig gan fath o ewyn (scum) amryliw. Gwelid rhyw sylwedd du yn berwi i fynu yn belenaú parhaus, gan ymchwyddo wrth esgyn, nes y byddent yn agos i'r wyneb, pan ymdorent gan ollwng allan helaethrwydd o agerdd tanllyd. Weithiau yr oedd y pelenau hyn yn dryloyw, ac o ddysglaerdeb anarferol, a phan ymdorent bwrient y maith eu harwisg bygawl, yr hwn gan ei fod yn drymach ua'r dwfr; a suddai i'r gwaelod, ac a orchuddiai ochrau y pydew. Y pelenau dysglaer a ymryddhaent o'r amwisg hon oeddynt naphtha, neu graig-olew pur.

Casglant y pyg yn awr â llwyau mawrion yn lle yr hen ddull o'i gasglu â'r cangenau myrtwydd. Bwriant ef o'r ffynnon i bydew gerllaw iddi, o'r lle y cyfodid efi farilau, a Ilanwant tua chant o farilau o hono yn flynyddol, gan ei ddefnyddio i bygu gwaelodau llongau a'r cyffelyb. Ymddangosai y ddaear dan ein traed yn ansefydlog, a phan da. rawem y llawr a'n traed, crynai dros gylch ëang. Bydd pob dieithr-ddyn a ddelo i Zante, yn dysgwyl teimlo daear-gryn i raddau mwy neu lai cyn ymadaw a'r ynys, yn enwedig os bydd yn agos i'r amser nodedig; felly gwelir hwy yn mynych ymgynghori a'r ffynnonau hyn am arwyddion dyneshâd y grynfa. Ninnau hefyd oeddym dra gwyliadwrus ar ferwadau y ffynnon, i edrych a oedd dim arwydd daear-gryn yn neshau; yr oedd y berw yn gryf yn ddïau yn awr, ond nyni a ymadawsom oll gan gredu na chyfarfyddem â dim o'r fath beth a daear-gryn tra fyddem yn ymdaith yn yr ynys.

Ar ein dychweliad, ciniawasom yn mhalas y Llywydd croesawgar, Syr Patrick Ross. Gan nad oedd palas y Llywydd ond bychan, yr oedd amryw o'r boneddion a wnaent i fynu y genhadaeth yn gorfod llettya mewn gwahanol dai; felly yr oeddwn I ac un arall yn llettya mewn palas perthynol i un o foneddion Zante, yr hwn ydoedd yn gweini ei swydd yn Corfu, fel aelod o'r llywodraeth Ioniaidd, ac wedi gadael ei dŷ at ein gwasanaeth ni. Mae y brif ddinas Zante, yn ëang a phoblog, yn cynnwys tuag unfil ar bymtheg o drigolion, ac oddeutu pedair mil o dai, gan mwyaf yn adeiladau mawrion, ac wedi eu gwneuthur o gerig nådd. Treuliasom y prydnhawn yn llys y Llywydd lle yr ydoedd llawer wedi ymgasglu i groesawi y Cennadwr, a digrifwch a llawenydd oedd yn teyrnasu yn ein plith. Y cymdeithion brodorawl a chwarddent am ben ein nodiadau ni ar hynodrwydd y ffynnonau, a ninnau a wenem ar eu daroganau hwythau o ddynesâd daeargryn. Ymadawsom tua hanner nos,

« PreviousContinue »