Page images
PDF
EPUB

Caerloyw, gan y dyngarwr Raikes, ac eraill. | byddinoedd, goludoedd eu trysordai, gogon. iant eu llysoedd, danteithder eu byrddau, a hyfrydwch eu profiadau; ni fyddaf un gradd yn nes i fwynhau y cyfryw bethau fy hunan:

Ychydig oeddynt nifer ei swyddwyr a'i deiliaid ar y dechrau; tua thair neu bedair o athrawesau, am swllt y Sabbath bob un, a weinyddent addysg i ychydig ddegau oond, os câ yr Ysgol Sabbathawl ei hamcan, blant tlodion y ddinas hòno: eithr erbyn hyn, wele, y fechan yn fil; a'r wael yn genedl gref: a'i deiliaid wedi cynnyddu uwchlaw dwy fil-fil (2,000,000) o rifedi ; dan lywodraeth tua dau can mil o swyddwyr, oll yn wirfoddolion, o fewn tiriogaethau Brydain fawr. Yn wyneb yr hyn nid allwn lai na bloeddio mewn syndod," Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd,”—-am hyny, "Nid i ni, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod y gogoniant."

dysg Gymmro tlawd am Frenin y nef, nes
ei dygiri fynwes y Goruchaf, ac i berthynas
fabwysiadol âg ef; dysg ef am deyrnas nef,
nes ei ddwyn i etifeddu y deyrnas, fel bren-
in ac offeiriad i Dduw, a chyd-etifedd â
Christ: dysg ef am wledd y nef, nes ei
ddwyn at y bwrdd i ymlenwi o'r danteithion;
ac a'i dysg yn iaith, moes, a defod y nef,
nes ei gwelir a'i ymarweddiad yn y nefoedd
cyn codi ei draed oddiar glai ein daear isel
ni: ac ei clywir yn llefaru iaith Canaan cyn
gadael gwlad Aiphtaidd y
66 'byd drwg
presenol."

Llythyr yw y Bibl, yn cynnwys cennadwri frenhinol oddiwrth Jehofah at ei ddeiliaid dynol; ac y mae y llythyr hwn dan saith sel ar hugain yn ei gyflwyniad i'n cenedl ni; yn awr, gwaith athrawon y dosparth isaf yn yr Ysgol Sabbathawl, yw dattod y seliau oddiar y llythyr, fel y gallo ei roddi yn agored yn llaw y dysgybl: gan hyny na fydded y swydd hon yn rŷ wael genym, eithr ymegnïwn yn y gwaith, gan gofio fod dysgu y baban i adnabod ond tair llythyren y Sabbath, yn llwybr i ddattod y saith sel ar hugain mewn naw wythnos; ac i roddi amlygiad o feddwl y Goruchaf, yn agored ger ystyriaeth perchen enaid: ac nac angofiwn yr amcan prïodol er dim, sef dwyn dynion i wybod ewyllys yr Arglwydd nes ei wneuthur. Wrth droi i derfynu, gofynaf,— Pe na byddai Ysgolion Sabbathawl, pa fodd,

Nid gorchwyl anhawdd a fyddai rhesymmu er dangos fod y moddion crefyddol hyn yn fuddiol. Y mae unrhyw beth llwyddiannus i atteb y dyben o'i sefydliad yn fuddiol i'r perwyl hwnw : felly, y mae diwylliaeth daear yn llwyddiannus i'w gwneuthur yn fwy ffrwythlawn; o ganlyniad, y mae yn fuddiol. Diwydrwydd mewn masnach sydd lwyddiannus er cynnyddu elw drwy y fasnach; gan hyny ystyrir diwydrwydd masnachol yn fuddiol. Yn gyffelyb, y mae yr Ysgolion Sabbathawl yn llwyddiannus i'r dyben o eu sefydliad; sef lledaeniad gwybodaeth grefyddol; o ganlyniad, rhaid addef fod y sefydliad crefyddol hwn yn fuddiol. Rhagora dysgeidiaeth yr athrofa hon ar bob rhyw ddysgeidiaeth arall, o ran natur ac effeithiau. Llawer gwyddoriaeth fuddiol a rhagorol, a ddysgir yn athrofäau y celfyddydau daearol;-yno dysgir ieithyddiaeth yn ei gwahanol gangenau, rhifyddiaeth a'i dyrus droelliadau, morwriaeth, daearydd-ion cyfaddased a gäem i ddysgu ieuenctyd iaeth, seryddiaeth, &c.; ond NEFYDDIAETH yw prif ddysg yr athrofa hon. Yma dysgir am deyrnas nef, Brenin y nef, Tywysog y nef, gweinyddion y nef, ei hiaith, ei moes, a'i mwyniant.-Rhagora hefyd yn ei heffeithioldeb ar bob dysg ddynol. Er dysgu o honwyf drwy rym dysg ddynol, nes gallu deall pwys a gwerth coronau pennaduriaid daear, eangder eu tiriogaethau, nifeiri eu

ein gwlad mewn gwybodaeth grefyddol? pa lwybr gwell a gäem i wrthsefyll grym anfoes a llygredd? I ba le y cyrchai y miloedd ieuenctyd ar ddydd yr Arglwydd? a allem ni eu dysgwyl yn lluoedd at gyhoedd ordinhadau crefydd? ynte, a ellir ofni mai mwy o rodianwyr, oferwyr, a gloddestwyr a fyddai yn llanw ein gwlad ar sanctaidd ddydd ein Ior?-Mewn gair, gofynaf, pa niwed a

ddefnyddio yn y modd goren a ellid, er adeiladaeth eu gilydd yn ngwaith yr Arglwydd. Mabwysiadwyd y dull a ganlyn mewn rhai Ysgolion, i dreulio y cyfryw amser.-Bod i'r Arolygydd ofyn i ryw athraw neu athrawes, pa le y diweddasant ddarllen

wnaeth yr Ysgol Sabbathawl? Dystawrwydd a deyrnasa drwy froydd ëang daear: ond clywaf dywysog y tywyllwch yn grymial | yn ei ffau-Niwed! hi rwygodd fy llenni I mewn llawer brô, nes yw y goleu yn creu aflonyddwch yn mysg fy neiliaid: yspeiliodd fi o rai o'm milwyr dewraf; a'r hyn a'my Sabbath hwnw? yna, bod i'r cyfryw dwys-ofidia yw, ei bod yn dangos y rhai hyny fel blaenion ei chad i wrthsefyll fy amcanion yn awr.-] -Niweidiol fu ac yw i mi; drylliodd fy amddiffynfeydd, a pharodd chwyl-dro drwy fy amherodraeth: am hyny tystiaf yn ei herbyn, a mynwn ei diwreiddio. Do, Beelzebub, gwnaeth niwed i'th deyrnas di; ac nid yw a wnaeth ond gwystl o'r hyn a wnâ! Ond, pe gofynwn pa fuddioldeb a barodd, clywn fyrdd ag un floedd glodforus yn atteb, y budd mwyaf! Gwnaeth fi yn aelod dedwydd mewn teulu, yn gydymmaith cymmeradwy mewn cymmydogaeth, yn ddeiliad defnyddiol mewn gwladwriaeth, ac yn gristion gobeithiol am iachawdwriaeth dragywyddol drwy Iesu Grist, Cyfryngwr y Testament Newydd!!! Llefared y pethau hyn drostynt eu hunain, a chaffont yr ystyriaeth briodol yn nghydwybodau ein darllenwyr, ac felly, cyflawnir dymuniad

PHILO.

At Olygydd y "Cynniweirydd." SYR, Er pan glywais am eich amcan o anfon eich Cyhoeddiad i gynniwair yn mysg deiliaid yr Ysgolion Sabbathawl, meddyliais mewn llawenydd ei fod yn debyg o beri adfywiad mewn llafur ac efrydaeth ysgrythyr awl, yn mhlith ieuengctyd ein talaeth; a chan dybied y gwnai gyfrwng addas i gyfodi yr hyn a fyddai buddiol a chanmoladwy mewn un ardal, ger sylw Ysgolion y Dywysogaeth; anfonais yr hyn a ganlyn i fod at eich gwasanaeth.

Mewn cyfarfod Ysgolion perthynol i ddosparth gogleddol gwlad Fôn yn ddiweddar, cynnygiwyd,—Bod i swyddwyr yr Ysgolion yn y dosparth hwn, aros yn ol gyda eu gilydd dros ychydig, ar ol gollwng y deiliaid ymaith; ́ a bod- i'r cyfryw amser gael ei

[ocr errors]

athraw neu athrawes, ddarllen yn nghlyw yr holl swyddwyr eraill (y rhai sydd ganddynt bob un ei lyfr agored yn ei law) bennod neu fwy, o'r hyn yr amcana ei ddarllen gyda ei ddosparth y Sabbath nesaf; a bod yr holl swyddwyr eraill i ddal arno, a'i gyfarwyddo i'w darllen yn gywir: yna bod i'r golygwr (neu ryw un a bennoder) ei holwyddori yn fanwl ar yr hyn a ddarllenasai; gan obeithio y gall hyny fod yn foddion i gadw y swyddwyr mewn llafur rhag-darbodawl erbyn y cyfarfyddont â deiliaid eu gofal y Sabbath nesaf. Pryd arall gall y golygwr ofyn i un a fyddo yn athraw ar ddosparth yn sillebu, pa le y bydd ei ddeiliaid ef yn sillebu y Sabbath nesaf; yna cymmera y sillydd yn ei law, a dyru restr o eiriau i'r athraw i'w sillebu; gan ofalu am ei fod yn llythyrennu, ac yn sill-rannu yr holl eiriau yn gywir: ac os palla un, rhodder y gair i athraw arall, &c., nes ei gael yn gywir. Byddai yn fuddiol hefyd gofyn am wahaniaeth llythyreniad a defnyddiad geiriau o gyffelyb sain, megys mae, mai, mau, ac, ag, &c.; defnyddiad yr acenau, gwahaniaeth llythyreniad yr enwau priodol yn y ddau Destament, a lliaws o'r cyffelyb bethau. Tebygwn pe llwyddai eich cyhoeddiad i gael gan y wlad fabwysiadu trefn fuddiol i gyrhaedd yr amcan uchod, y gellid ei ystyried yn Gynniweirydd" teilwng o groesaw di-ledrith gan bob Cymmro; ac y gwelid miloedd ychwaneg o'n ieuenctyd yn fuan, yn abl ysgrifiaw eu syniadau yn ddillynwedd yn eu hen iaith gynhenid.

66

[blocks in formation]

GWIRIONEDDAU TEILWNG O SYLW ATHRAW

ON YR YSGOLION SABBATHAWL.

Galluoedd ein meddyliau ydynt yr offerynau a'r peiriannau sydd raid i ni eu defnyddio yn mhob rhyw ymholion; a pha oreu y dëallom eu natur a'u grym, goreu y gall

wn eu defnyddio.-Reid.

Ganwyd dyn i feddu llywodraeth ar y ddaear, ac i'w darostwng; ond drwy synwyr yn unig y gall wneuthur hyny. Mae yn angenrheidiol deall natur, mewn trefn i'w gorchfygu.-Fellenberg.

Gellir cyfarfod a'r pechodau mwyaf mewn cyssylltiad â'r wybodaeth fwyaf. Gan hyny y mae goleuni yn fendith yn unig tra yr arweinia yr enaid yn ffordd dyledswydd ac ufudd-dod.-Flavel.

Llyfr gwybodaeth yw cyfrol natur; a'r hwn a wnelo y detholion goreu, a ennill y ddoethineb ragoraf.-Goldsmith.

[blocks in formation]
[ocr errors]

1

[ocr errors]
[ocr errors]

Dylai athrawon fod yn neillduol o'r gofalus i iawn-lywodraethu eu brwd-frydedd. Mae angen neillduol am frwd-frydedd i gynhyrfu sylw eu dysgyblion, ac i'w cadw yn effro: i ddirnad eu gwahanol dueddiadau, eu hymarferion, a'u galluoedd; i ddeall pa bryd y byddant yn amgyffred yr hyn a gyflwynir i'w sylw; i ganfod pa beth sydd yn eu hattal ac yn eu dyrysu; i ddarparu meddygyniaeth briodol er symud yr anhawsderau hyn; ac i gyfleu yr hyn a ddysgir iddynt yn y fath ddull goleu ac y gwnelont ei ddirnad yn drwyadl. Pan gynted yr ymlygro brwdfrydedd athraw i anmhwylledd, y mae yn llawer mwy niweidiol i'r dosparth nac y dichon unrhyw drymder o'i eiddo fod. Ni ddysgant mwyach, wedi eu syfrdanu: ac nid gwiw dysgwyl i ddrych-feddyliau ieuenctyd, anmhrofiadol, ymgyfodi gyda chyflymder corwynt: rhaid yw ffurfio eu meddyl-ddrychau bob yn ychydig ac ychydig, a'u cryfâu yn raddol: rhaid godd. ef iddynt ofyn ambell holiad, heb gyfarfod âg atteb gwgus. Pan fyddo athraw yn anamyneddgar am na byddai ei ddysgyblion yn dyfod ymlaen cyn gynted âg ef, yna y mae terfyn trancedig i'w cynnydd hwy. Nid wyf yn ammeu nad hyn yw un o'r Nid oes un gwiwdeb mewn moesgarwch prif achosion fod mor anhawdd cyfarfod yn ngolwg y nêf, ond yn ol efengyleiddrwydd, â rhai cymhwys i ddysgu eraill. Anfyna christionowgrwydd yr egwyddor y deillia yeh y canfyddir brwdfrydedd a phwyll oddiarni.-Coetlegon. (dau ragoriaeth anhebgorol i athraw da) yn Mae cywreinrwydd yn duedd naturiol cyd-gyfarfod. Tra anhawdd yw cael tân ; mewn plant, ac yn eu hannog megis i gyfar-a lle y mae, mae mor anhawdd ei lywodrfod addysg; gan hyny nac esgeuluswch wneuthur iawn ddefnydd o hono.-Fenelon. Gwirionedd pethau yw eu cymhwysder, ac ewyllys hunan-ddibynol, annherfynol, benarglwyddiaethol Duw yw y rheswm am danynt.-Coetlegon.

Y mae gwahardd peth, heb fod yn alluog i roddi rheswm am hyny, yn dueddol i greu dyryswch mewn meddyliau ieuainc o barth egwyddor, ac yn beryglus i niweidio eu dedwyddwch dyfodol.-Fellenberg.

Dylid gofalu am osod seiliau gwybodaeth mor sicr ac eang ag y gellir. Mae yn hollol gymhwys i bawb ymafael yn egwyddorion diammheuol crefydd yn foreu.-Oldfield.

Nid yw dedwyddwch ddim amgen na'r hyfrydwch fewnol hòno, sydd yn deillio oddiar gyd-undeb cyson rhwng ein ewyllysiau ni âg ewyllys Duw.-Ralph Cudworth.

Mae anwybodaeth yn fam i ofn ac i syn

aethu. Y mae llawer o ofal, o boen, ac o reswm yn ofynol. Rhaid i'r neb a fyno fod yn athraw da, garu ei waith yn fawr, a deall ei ddyledswydd yn dda.

AWGRYM BWYSFAWR.

RHYW wr wrth geryddu ei fachgen am
dyngu, a ddywedai, fod hyny yn ddrwg dir-
fawr, a bod Duw yn ei glywed ef yn tyngu,
oblegyd y gall Duw glywed pob peth.
ê yn wir fy nhad?" medd y cydymaith
bychan, a all efe weled pob peth hefyd ?”

"Ai

[blocks in formation]

FEL yr oeddwn yn myned drwy dref yn Nghymru yn ddiweddar, canfyddwn ei thrigolion o fawr i fach yn ymbentyru ar draws eu gilydd, megys pe buasent wedi penderfynu creu terfysg, a chynnal anrhefn: a mawr oedd y dwndwr, y bloeddiadau a'r ysgrechau. Ymddangosent fel yn ymddadleu pwy yn eu plith a fyddai fwyaf, a chan fod pob un yn meddwl yn dda am dano ei hun, yr oedd yn barotach i siarad nac i wrando ar reswm ei gymmydog.-O'r diwedd dystawyd ychydig ar y dadwrdd, ac yn lle y cyd-glebran, dechreuodd y bobl siarad yn olynol; a'r ymddiddan canlynol a fu rhyngddynt. Y Cyfreithiwr a sylwai, na ellid cadw cymdeithas yn nghyd heb gyfraith; mai cyfraith yw perffeithiad rheswm, rhwymyn undeb, a gogoniant gwlad; ac y dylai y cyfreithiwr gael y lle blaenaf yn mhob cyfarfod cyfreithlawn. Y Meddyg nid allai ar un cyfrif gydsynio yn y cynghor uchod, gan ei fod yn sicr o ddyrysu a chlwyfo cymdeithas yn anfad; a bod rheswm naturiol pa ham y dylai dynolroddi y flaenoriaeth i ddefnyddioldeb eu haelodau ar bob peth arall: am na all holl olud a chyfreithiau y byd fod o un gwasanaeth iddynt, heb iechyd.

rów,

Ammaethwr (Farmer) yn ei wisg Sabbath a ddeuai yn mlaen, a chan ffusto ei fotasen a ddywedai ei feddwl yn rhydd iddynt. "A glywch chwi foneddigion" eb efe, gan edrych ar y cyfreithiwr a'r meddyg, "mae gan I un cwestiwn plaen i'w roi i chwi; Beth a wnaech chwi gyd a'ch holl gyfraith a'ch phisic, pe na bae genych ŷd? Yn fy nghyfrif I, mwyaf dyn yw yr hwn sy'n canlyn yr aradr." "Mae dilyn yr aradr yn ddigon buddiol," medd y Melinydd, "o ran, fel yr ydych chwi'n dweud, nid all yr un o honom ni wneud yn dda heb ŷd; ond nid ydym ni ddim i fwyta'n bwyd fel mochyn yn y cyt! y blawd fyddwn ni'n fwyta, nid y gwellt a'r ûs; am hyny nid oes un dyn mwy buddiol na melinydd gonest."

"Chwi a wyddoch pa fodd i droi y dwfr at eich melin eich hun;" medd y Pobwr, D

"ond ni fyddai eich blawd chwi ond stwff go wael i'w roi o flaen dyn heb ei wneud yn fara: mae llawer o bobl grammenog afrywiog yn y byd, am na chaent hwy y parch sydd eisiau arnynt; ond y mae pobwr cystal ag un o honynt wedi y cwbl."

Gyda bod hwn yn tewi, cyfodai y Cigydd, yn ei arffedog lâs, a'i wyneb cyn goched a'r cig a werthai, ac a ddywedai, "Beth! Mr. Cryst-gnowr, a oes arnoch chwi eisiau gweled wyneb pawb cyn llwyded a'ch toes chwi? ond gadewch i mi ddweud i chwi, na wna hyny mor tro. Beef rhost Hen Frydain yw'r unig fwyd wna ddyn y peth y dylai fod."

66

Mae yr hyn a ddywedasoch chwi am beef yn ei le," medd y Cogydd, "ond nid yn amrwd y bwyteir cig, nid wy'n hitio mor bwdingen yn un-gwr a gynnygio ymgodi yn uwch na'i gymmydogion; ond mi haera y gall cogydd fod mor gymhwys a neb i eistedd ar ben y bwrdd."

Tafarnwr a ddywedai, er fod danteith-fwyd yn dda, mai gwell oedd gwydraid o hen gwrw cryf; a'i fod yn meddwl y dylai tafarnwr fod yn uchel ei radd yn y byd, am ei fod yn gwneud ei holl gwsmeiriaid mor ddedwydd a breninoedd.

"Ond pa les a wnai eich bwyta a'ch yf. ed," medd saer maen, " heb dŷ i guddio eich pen. Y Bildiwr sydd yn eich amddiffyn rhag y dymhestl; ac y mae ganddo cystal sylfaen am ewyllys da ei gymmydogion a neb yn eich mysg."

66

"Arhoswch ychydig," medd y saer pren, gellwch chwi wneud mur a ffumer, ond ni ellwch gadw rhag y dymhestl a grybwyllasoch hebof fi; oblegid, pa le y cewch chwi y tô a'r ddôr? Yr wyf fi yn well dyn na saer maen, am fy mod yn gorphen yr hyn a ddechreuodd efe."

Crwynwr a ddywedai fod croen o ledr da, yn fwy gwasanaethgarna'r cyfan; â hyn cydsyniau y Cyffeithiwr; "ond," eb efe, "rhaid et drin a'i barotôi yn dda yn gyntaf, yna y bydd gwir yr hen air," Nid oes dim megys lledr.'

[ocr errors]

Y Crydd, y Dilledydd, yr Eurych, a llü aws eraill oeddynt bob un yn barod i ddweud rhyw beth drostynt eu hunain, pan ddaeth Oriorydd yn mlaen, a chan ddeall prif gynhyrfydd eu calonau, efe a'u cyfarchodd fel y canlyn, "Meddyg! meddyg! fel yr oeddwn yn dyfod heibio i arwydd y Llew côch, gwelais Mr. Meddwyn wedi cwympo i lewyg." Wrth y Cyfreithiwr dywedai, "Clywais fod Yswain Meithdir yn waelach o lawer, ac yn bwriadu gwneuthur ei Destament." Yr ymadroddion hyn a weithiasant yn rhyfedd; canys buan y diflannodd y meddyg a'r cyf. reithiwr. "Fy nghyfeillion," eb efe wrth y lleill, "Yr ydwyf newydd glywed newyddion da, mae My Lord Treulgar newydd ddyfod i lawr, i dreulio peth amser yn y Plas, ac y mae ei oruchwyliwr ar Groes yr aur, yn barod i roddi ei Eirchion i'r gwahanol Fas

nachwyr, ac y mae y gair allan ei fod yn talu am bob peth âg arian parod. Ymaith a hwy, un y ffordd hon, ac arall ffordd arall, ond yn rhyw fodd cyrhaeddasant Groes yr aur bob un.

[ocr errors]

darluniad uchod o'r hyn ni ddylid ei wneuthur, gellir gweled pa beth a ddylid ei wneuthur, a thrwy sylw dyledus ar agweddau pobl foesgar, cydnabyddus a'r byd a'i arferion, byddai yn hawdd dysgu ymddwyn yn weddus ac yn drefnus ar bob achlysur. Trwsgleiddrwydd mewn ymddiddan hefyd, a ddylid ei ochel yn ofalus, megys geiriau seisnig candryll a salw, hen ddywediadau a chwedlau gwrachïaidd, diarhebion disynwyr, &c. ; wrth fynych arferiad a'r hyn y gellir gwybod na fwynhaodd y cyfryw ddyn nemawr o fanteision cymdeithas dda. Nid prydferth camenwi, y rhai y byddis yn son am danynt; a hynod chwithig yn mysg cymdeithion o ddygiad da i fynu, yw son am "Mr. Hwnw" a "Mrs. Beth yma;" Gan hyny gweddus yw meddu llywodraeth dda ar y meddwl a'r côf, o barth i destyn yr ymddiddan: os amgen, dichon y bydd i ni gam-gyfenwi gwyr o urddas, gan alw arglwydd yn syr, a syr yn arglwydd, a'r cyffelyb amryfuseddau: er mwyn gochel yr hyn, dylid llafurio i ymgydnabod â'r cyfarchHYFFORDDIADAU MEWN YMDDYG-ion prïodol i bob gradd o ddynion. Peth

Tyred, ddarllenydd! myfi a ddywedais hanes hirfaith a gall fod yn llesol i ti, ond i ti wneud defnydd da o honi. Y mae pob un o honom yn rhy hunanol o lawer, ac yr ydym yn gweled y gwaeledd yma mewn eraill, ond nid ynom ein hunain. Gan hyny ymestynwn at ddiwygiad. Mae addfwynder yn rhagori ar uchel-frydedd, a boddlonrwydd yn fwy dewisol na llawnder; ïe, mewn gwirionedd, "Elw mawr yw duwioldeb gyda boddlonrwydd ;" ac y mae y dyn a all ymlawenychu yn llwyddiant ei gymmydog, mor oludog a Chræsus. Cymmerwch addysg oddiwrth y darluniad uchod, a bydd eich calon yn ysgafnach, a'ch cydwybod yn dawelach; ac ni fydd byth yn edifar genych ddarllen y llinellau hyn yn erbyn Hunan.

IADAU MOESOL.

LECTOR.

WRTH ystyried anfanteision ein cenedl, tybiasom mai buddiol a chymmeradwy a fyddai anrheg fechan dan y pen hwn yn achlysurol.

Gwelwyd dynion synhwyrol yn arferyd agweddau annymunol mewn cyfeillach lawer pryd, yr hyn a barai i'r gwyddfodolion feddwl yn wael am danynt er pob rhyw ragoriaethan teilwng eraill a feddiannynt.

Y cyfryw arferion anheirdd a ddeilliant oddiar un o ddau achos; naill a'i diffyg cadw cyfeillach dda, neu ddiffyg gwneud defnydd da o honi, a dull y cyfryw a'i bradycha. Pan ddelo gyntaf i'r ystafell, dichon yr eistedda yn y lle uchaf wrth y bwrdd, pan y dymunai eistedd yn y lle isaf;-wrth yfed tê neu goffi, dichon y llysg ei enau yn ei anmhwyll, y gedy i'r llestri gwympo a thòri, neu golli eu cynnwys ar ei ddillad, gan ei | anhwylusder. Ar giniaw y mae yn ddigon a brawychu y neb a'i gwel, gan ei fod fel un yn bygwth rhwygo ei safn â'r gyllell, neu dyllu ei dafod â'r gigwain wrth roddi pob tammaid yn ei enau. Os daw i'w ran dori bwyd, ni's gwyr pa le i chwilio am y cymal,

ac yn
ei ymgais ffol i dori drwy yr asgwrn,
gwasgara y gwlybwr i wynebau y rhai a
fyddont o'i amgylch, ac am dano ei hunan,
bydd ei wisgoedd wedi eu llychwinaw gan
frasder; a phan fyddo yn yfed, deg i un na
phesycha efe yn y gwydr, nes taenellu y
cymdeithion â'r gwirod.

arall tra annymunol, yw dechreu adrodd hanes heb allu ei gorphen, a gorfod dywedyd y canol ond odid, nad ydych yn cofio ychwaneg.

tua

Oddieithr bod yn dra chyfarwydd yn yr hyn a ddywedo, bydd yn debycach i fino a dyrysu dynion, nac i ei dyddanu a'u dysgu.

ELFENAU ATHRONIAETH NATUR-
IOL.

Y rhaglith.

DYLAI pob ymgais cywir am ychwanegu gwybodaeth am Dduw drwy ei weithredoedd cyngystal a'i air, gael cefnogiad diledrith ́gan bawb a garo gynnydd ofn duwiol yn mysg dynion mewn oes fel y bresenol; yn yr hon y mae meddyliau dynion mor orwyllt yn ymofyn am ryw beth newydd: a diau y bydd i'r diofalwch a fu cyhyd yn ein mysg ni fel cenedl, am dreiddio i mewn i ryfeddodau anian, ac ymofyn am adnabyddiaeth o Greawdydd pawb a phob peth yn ngwaith ei law, gael ei olygu gyda syndod a thosturi, gan y bobl a enir a'r genhedlaeth a'n dilynant fel gwladychwyr Gwalia, yn mhlith y rhai y blodeua gwyddorion gwybodau a chelfyddydau buddiol.

Tebygem mewn llonder bod gwawr gwedi ymddangos uwch arwel Cymmru er's cryn yspaid bellach, yn arwydd calonog y gwelir haul dysgeidiaeth yn dysgleirio yn mysg ein plant, ac eu cyfodir o lyn tywyll cyfyngHeblaw hyn, y mae ganddo arferion hyll-syniadau eu rhiaint, i orfoleddu yn fuddugach etto; sugn-gartha ei drwyn, ac a'i chwyth, gan edrych i'w gadach, nes y bydd yn ddigon a throi calon pawb yn yr ystafell. Ei ddwylaw ydynt faich arno, fel na's gwyr pa fodd i'w cynnal oddieithr bod ganddo ryw beth ynddynt yn barhaus. Oddiwrth y

awl, ar fryniau goleu amgyffred ehang a gwybodaeth rinweddol. Tuag at gymhell ein cyd-genedl i ymegnïo a llafurio ychydig yn y maesydd ehang hyn, y cynnullwyd y lloffion a gyflwynir ger eu gwydd dan y pen hwn, mal profion o ffrwythau peraidd y

« PreviousContinue »