Page images
PDF
EPUB

Mae yn amlwg fod Lyous, yr ail ddinas yn Ffrainc; yr hon y bu cryn gynnwrf ynddi er's dyddiau yn mysg y gweithyddion sidan, yn gwaelu ac yn colli ei bri yn brysur. Bu y lliwyddion yn sefyll allan am gyflog yn y dyddiau diweddaf, er nad allasant wneuthur nemawr o niweid; eto, y mae llaweroedd o'r trigolion heddychol, yn fasnachwyr a chelfyddydwyr, cystal a phendefigion; yn ymfudo yn brysur i ryw barthau mwy llonydd. Clywsom mai y Cadfridog Gerard a osod wyd yn lle Soult, yn brif weinidog y DeyrnCanmolir y gwr hwn fel dyn synhwyrol, a charwr rhyddid.

as.

ddaethai i'r deyrnas hon yn ddiweddar, wedi dianc yn lladradaidd mewn ysgafn-long fuan, o'r deyrnas hon, i ymuno a'i bleidwyr yn yr Hispaen; a dywedir fod gan Zumalacareguy, tuag un neu ddwy fil ar bymtheg o wŷr at wasanaeth ei feistr, yr hwn a'i geilw ei hun yn Siarl V. Mae y gair ar led hefyd ei fod ef wedi llwyddo i gael llawer iawn o arian yn Lloegr tuag at ddwyn ei amcanion yn mlaen; yr hyn a all ei alluogi i barhâu yr ymgyrch dros amser eto mae yn debyg: ond yr ydym yn lled hyderus fod y Cadlywyddion Rodil, Quesada, a Lorenzo, yn barod i roddi croesaw brwd iddo ar flaenau bidogau eu byddinoedd; ac os byddant hwy yn ymdeimlo yn rhy ddinerth, meddyl

Mae yn beth nodedig i sylwi arno fod y cyfnewidiadau yn nghynghorlys Ffrainc er's tro yn awr yn cyfatteboli mewn modd neill-iem fod gan y frenines hawl yn ol y cytunduol â'r cyfnewidiadau yn Nghynghorlys deb pedwar-plyg, i alw am gymhorth Lloegr Brydain Fawr, a bod dynion o egwyddorion a Ffrainc, i ddodi ei merch mewn meddiant diormes yn amlhau yn mhrif-leoedd y ddwy llawn o'r orsedd. deyrnas.

PORTUGAL.

Mae heddwch yn cael ei adferu yn lled gyffredinol drwy y deyrnas bon, ar ol yr adfyd maith; a gobeithiwn y gwelir yn y Cortes sydd ar ymgynnull, duedd gref i fawrygu y y bendithion gwerthfawr o ryddid a heddwch. Dywedir fod ei Sancteiddrwydd y Pab, yn dechreu anfon ei daranau uwch ben Pedro, gan ei fygwth ef a'i bobl âg ysgymundod, ac â melltith y fam eglwys, oni bydd iddo ddychwelyd golud yr eglwys yn ol i'w ffrydlifiad arferol. Mae yr hen fachgen yn cael ei flino yn lled fynych yn y blynyddoedd hyn, gan fod y Dr. Reform yn dysgu ei blant i anirafaelio a'u tad, tynu eu gyddfau o'r iau ac ysgafnhau ei god. A fydd gan Pedro a'i gynghor ddigon o ddewrder i ddibrisio ei fygythion, a thynu attegion y golnd gwladol oddi tan fagwyr y winllan babaidd yn Portugal, ai peidio, nis gallwn benderfynu: ond os bydd, nyni a feddyliem nad hir y byddai Hispaen heb ddilyn ei hesampl.

[blocks in formation]

Mae llifeiriant mawr wedi bod mewn parthau o'r Hispaen, yr hwn a ddinystriodd lawer o erwau o dir, a ddymchwelodd lawer o dai, ac a brofodd yn angeuol i laweroedd. Ac y mae yr haint dychrynllyd, y Cholera, yn ymledu yn lled danllyd yn y brif-ddinas, fel y mae y frenines a llawer o'r mawrion wedi ffoi i ryw dref fach arall, gan ei ofn. Fel hyn y mae drygfarnau Duw ar y wlad hon mewn modd dychrynllyd; llifau dinystriol, newyn a chyfyngderau mewn mannau, rhyfel gwladol yn anrheithio a dibobli y wlad, yr haint yn lladd ei gannoedd yn eu dinasoedd, a'r trigolion yn suddo yn nghaddug pabyddiaeth, fel rhai wedi eu rhoddi i fynu i amryfusedd cadarn, fel y credent gelwydd.-Onid yw ansawdd gwlad fel hyn yn galw am ein tosturi cyd-ymdeimladol, a'n gweddïau taeraf?

[blocks in formation]
[ocr errors]

y Cyffredin, a deallwn fod yr Uchelwyr yn myned yn mlaen yn lled fywiog gyda hi; ac y mae yn lled debyg y bydd yr Ysgrif hon yn rhan o gyfreithiau y tir cyn bo hir, er cymaint sydd o wrthwynebu arni mewn manau; ond ni allwn ddywedyd yn amgenach na wneir peth cyfnewidiadau ynddi cyn y daw o ddwylaw eu harglwyddiaethau.

Mae yn ddiau fod yr Ysgrif hon yn un bwysig iawn, ehang yn ei chyfnewidiadau, ac ansicr eto, gan nas profwyd hi yn ei chanlyniadau; ac ni fu cynnrychiolwyr y bobl yn anystyriol o hyn, oblegid treuliwyd rhan- | au o un diwrnod ar bymtheg a thriugain i'w hystyried yn Nhy y Cyffredin. Prif amcan yr Ysgrif yw gwneyd trefniad newydd diwygiadol yn y cyfreithiau perthynol i weinyddiad cynnorthwy i'r tlodion, i drefnu plwyfogiad tlodion, ac i gyfnewid y deddfau perthynol i fasdarddiaid.

Gorph. 9fed. Darfu i Iarll Grey, yn Nhŷ yr Arglwyddi, ac Arglwydd Althorp, yn Nhŷ y Cyffredin, hysbysu y Seneddwyr, eu bod hwy wedi rhoddi y swyddau a ddalient yn y llywodraeth, fel aelodau o'r cynghor, wrth draed ei Fawrhydi, yr hwn a welodd yn dda eu derbyn. Dangosent eu prif resymau am hyn hefyd, a'r hyn a arweiniai i beri yr ymraniad hwn; sef bod gwahanol aelodau y cynghor, yn methu cydweled yn hollol, o gylch natur yr ymddygiad gofynol oddi wrthynt tuag at lywodraethiad yr Iwerddon. Gwnaethai Mr. Littleton, Ysgrifenydd Llywodraethol yr Iwerddon, ryw ddatguddiadau lled anmhriodol i'r Arch-derfysgydd O'Connell; a thrwy ffalsedd neu ffoledd, gollyngwyd y gath o'r cwd, a'r canlyniad fu yr ymraniad crybwylledig. Wedi i Iarll Grey roddi ei le i fynu, galwodd y Brenin am Arglwydd Melbourne, ac a'i hawdurdododd i adffurfio y cynghor: ac felly y mae wedi ei ffurfio o newydd drachefn, heb neb o'r hen aelodau yn absenol o honaw, ond Iarll Grey. Dyrchafwyd Arglwydd Melbourne i fod yn Brif weinidog y deyrnas; a llanwyd ei le ef fel Ysgrifenydd Cartrefol gan Arglwydd Duncannon: ac Arglwydd Althorp a ail ymaflodd yn ei swydd fel Canghellwr y Trysorlys, ar daer-ddymuniad oddeutu pedwar cant o aelodau o Dŷ y Cyffredin, ei gyd-gynghoriaid, a'r Brenin.

Gorph. 25ain. Dug Arglwydd Althorp ei gyfrifon arianol i mewn, wrth y rhai y deallwn fod Canghellwr y Trysorlys yn amcanu yn lled galonog y gall efe leihau y swm o £1,581,000 ar y trethi sydd yn gwasgu ar ddeiliaid Brydain Fawr, drwy ddifodi rhai tollau, ac ysgafnhau eraill yn mysg y tollau yr amcanir eu dileu, mae y doll ar syth, (starch) yr hyn sydd tua £75,000; ar almanaciau, £25,000; treth y ffenestri ar dyddyndai bychain, treth ar geffylau marchogaeth i dyddynwyr bychain, treth ar geffyl a gedwir gan weinidogion yr efengyl yn

|

mysg y gwahanol enwadau crefyddol, os na bydd ei gyflog dros chwech ugain punt, &c. Amcenir hefyd codi £50 y cant ar drwyddedau i adwerthu gwirod, a gwneuthur cyfnewidiadau yn mhris trwyddedau tafarnwyr cyffredin.

AMRYWIAETHAU.

LLOFRUDDIAETH ARSWYDUS.

Dydd Gwener, Meh. 27. Cyflawnwyd llofruddiaeth ysgeler yn ngwaelod Beck-lane, Nottingham; yr hyn a daflodd y dref i fraw a chynnwrf. Y llofrudd, William Hankley, a fuasai yn briod a'r fenyw annedwydd a syrthiodd yn aberth i'w gynddaredd, er 's un mlynedd ar ddeg; ond deallir mai lled anghysurus oedd eu bywioliaeth; ac oddeutu chwe (blynedd yn ol, hi a'i gadawsai ef, ac a aethai i Nottingham, lle y cyd-drigai â dyn o'r enw Bull, yr hwn, meddir, a fuasai yn cyfeillachu a hi cyn ei phriodi. Pa fodd bynag oddeutu y Nadolig diweddaf, hi a ddychwelodd yn ol at ei gwr i Derby ac a fu fyw gyd ag ef hyd ddydd Llun Meh. 23, pan ei gadawodd drachefn, wedi casglu cymaint a allai o'i arian a phethau eraill; a dychwelodd at yr hen ganlynwr, Bull, yr hwn oedd yn llettya yn nhŷ un Mr. Peck, yn Beck. lane. Y gwr wedi ymddigio yn ofnadwy am y fath dwyll deublyg oddiwrth ei wraig, a'i dilynodd gyda'r cerbyd hyd yn Nottingham, ac a aeth i mewn i dŷ ar gyfer yr un yr oedd ei wraig ynddo, yr ochr arall i'r heol; a chwynai yn chwerw am y cam-ymddygiad a gafodd oddiwrthi. Oddiyno efe a aeth drosodd i dŷ Mr. Peck, i ymddiddan a'i wraig, ac aethant i oruwch-ystafell yn y tŷ i'r perwyl hyny; bu Mr. a Mrs. Peck i fynu gyda hwy lawer pryd, ond ni welid un arwydd o ddigter yn eu hagweddiad, ac ni chlywid un ymadrodd llidus rhyngddynt: ond yn fuan ar ol un o'r gloch, pan oedd Mr. Peck yn ciniawa, clywai swn codwm trwm ar y llofft, yr hyn a ddilynid yn ddïoed â bloeddiadau o Murdur! Ar hyn efe a frysiodd i fynu, a gwelai Hankley a'i wraig ar lawr yn agos i'r drws, y gwr yn gafael yn ngwddf ei wraig a'i law aswy, ac a'r llaw arall yn ei rwygo âg ellyn llym. Mr. Peck, yr hwn sydd hen wr, a ymaflai yn ei ysgwydd, ac a ymdrechai i'w dynu yn rhydd, ac wrth hyny llusgai y ddau at y ffenestr; ond mor greulawn oedd yr adyn, fel na ollyugai ei ysglyfaeth er dim, ond parhâi i hàcio ei gwddf yn barhâus nes y bu farw yn llwyr. Mr. Burrows yr hedd-geidwad a ddaeth i mewn, ac a'i tarawodd lawer gwaith ar draws ei fraich, ac o'r diwedd a roddes ddyrnod trwm iddo ar ei ben, nes ei syfrdanu, cyn gallu cael y gyllell o'i law. Yna efe a roddwyd mewn dalfa ac a ddygwyd i'r carchar i aros ei brawf. Am chwech o'r gloch yn y prydnhawn cadwyd ymholiad o flaen yr

[blocks in formation]

rhai a lanwyd yn fuan gan y Cooliaid druain y rhai a geisient wthio dros y borthfa a dianc am eu bywyd; ond gan eu bod wedi eu gorlenwi, hwy a soddasant, a boddwyd pawb oedd ynddynt. Cafwyd pedwar o gyrph boreu dranoeth ar y borthfa hon, a denddeg wedi hyny rhwng gwŷr a gwragedd, mewn parthau eraill o'r afon. Nis gwyddis yn sicr eto pa faint o fywydau a gollwyd ar yr achlysur hwn; ond y mae wyth neu ddeg yn gorwedd yn feirwon ar faes y frwydr, yr ochr ogleddol i'r afon; tra y mae eu cyfeill

anturio drosodd i'w symud ymaith. Ofnid y byddai i frwydr arall o ddïal gymeryd lle yn fuan.-Evening Mail.

DISTRYW MAWR DRWY DAN.

Ymladdfa waedlyd yn Kerry.-Meh. 24ain Cymerodd brwydr dra gwaedlyd le ar redegion ar yr ochr ddehenol o'r afon heb feiddio faes Ballyheagh, oddeutu tair milldir ar ddeg o Tralee; rhwng dau lwyth o'r gwyddelod, y Cooleens a'r Lawlors, y rhai a fuasent mewn amrafael a'u gilydd er's mwy na hauer can mlynedd, a thrwy yr yspaid maith yma, a ddefnyddient unrhyw adeg i ddïal ar eu gilydd, er gwaethaf pob cyfraith, bygythion a chospedigaethau, o oes i oes. Taenid y chwedl o amgylch, rai dyddiau yn flaenorol i'r frwydr, fel y cafodd y swyddogion gwlad- | ol hamdden yn mlaen llaw i anfon am gymhorth milwraidd o Tralee i gadw heddwch ar y rhedeg-faes. Felly daeth rhan gref o'r 69 catrawd, gyda thri swyddog milwraidd o Tralee i Ballyheagh; a gosodwyd hwy mewn trefn ar lan afon Cashen, o fewn y rhedegfaes, yn barod i ymdrechu i ddarostwng y terfysg ar ei ymddangosiad cyntaf. Ymddangosodd y ddau deulu amrafaelgar ar y maes yn lled fuan; ond parhasant yn heddychol eu hymddygiad hyd onid aeth y rhedegfeydd drosodd, tua thri o'r gloch brydnhawn; pan y dechreuent ymladd o ddifrif, oddeutu min yr afon, â'u ffyn, ac â meini. Un boneddwr, yr hwn oedd lygaddyst o'r ymdrechfa waedlyd, a ddywedai ei bod yn olygfa mwyaf annynol ac annhrugar og a welwyd erioed mewn gwlad gristionogol. Nid allai y milwyr wneuthur dim er attal y Hlifeiriant o lidiowgrwydd tanllyd a ymgynneuai o bob tu. Bernid fod mil o ddynion o leiaf, yn cydymdrechu mewn eithaf creulondeb i rwygo a baeddu eu gilydd. Cefnogid y gwahanol bleidiau gan ddynion o fröydd pellenig, y rhai a ymladdent yn erbyn dynion na's gwelsant a'u llygaid erioed o'r blaen, yn unig er mwyn y pleser cythreulig o ymladd. Hyd yn nod y menywod a wnaent eu hegni i gadw yr ymladdfa i fynu, drwy gludo cerrig yn eu harffedogau i'w ffryndiau. Gan na chenhadid i'r milwyr danio, methasant attal y creuloniaid i ddystrywio eu gilydd ; ond llwyddasant i wneuthur tu ag ugain o honynt yn garcharorion. O'r diwedd y Cooliaid a ddechreuasant golli tir, ac encilio rhyngddynt a glan yr afon; a gyrwyd llawer o honynt i mewn iddi, ac a'n boddwyd. Cynnygiai amrai ddianc drwy nofio, ond y Lawloriaid buddugawl, a'u lluchieut â cherig mewn modd barbaraidd. gwaith galarus o chwilio am gyrph y Yr oedd yn llanw y pryd hyn, ac yr oedd meirwon, a chafwyd tri ar ddeg neu ychwan dau o gychod tywod ar ddwfr yn y lan, yeg o drueiniaid wedi eu llethu dan y malurion.

Yn foreu ddydd Sabbath, Meh. 29ain, canfyddid gweithfa gottwm fawr, a elwid yr "Union Mill," tua milldir o dref Oldham ar dan, a gellir canfod brasolwg ar y canlyniadau echryslawn oddiwrth yr hanes a ganlyn. Gwelid y fflamau yn gweithio eu ffordd allan yn gyntaf, o un o'r ystafellau uchaf; ond erbyn myned i mewn i'r adeilad, gwelid y defnyddiau llosgedig yn dyferu drwy y gwahanol lorian, ac yr oedd yn hawdd deall na fyddai yr holl adail nemawr cyn syrthio yn aberth i'r elfen ddinystriol : dygid y dw frbeiriannau yno yn brydlawn, a meddid pob mantais i attal y llosgiad drwy fod digonedd o ddwfr gerllaw at eu gwasanaeth: ond ofer oedd yr holl egniadau; y tân a ffynai ar bob llaw, nes o'r diwedd y disgynodd darn anferth o'r mur i'r llyn oedd gerllaw; ar yr hyn y rhoddai y dorf gynnulledig ysgrechau o alar a braw, yn achos y rhai a dybient a gleddid gan y drylliau, neu a fwrid o flaen y rhuthr i'r llyn ac a foddid. Disgynodd un o'r trawstiau ar goes un o'r enw Thomas Mills, ac a'i drylliodd yn arswydus: damweiniodd hyn yn agos i ddrws oedd yn arwain o'r felin i restr o ystordai, ar y rhai nid oedd y tân wedi effeithio nemawr eto; yn y drws hwn y safai amryw ddynion, a gwnaent a allent i dynu y dyoddefydd truan yn rhydd: ond nis gallent mewn modd yn y byd symud y defnyddiau trymion a gwympasent arno. Ysgrechai y truan am gymhorth, a gwaeddai yn orwyllt am iddynt fwrw dwfr arno i'w gadw rhag ei ysu gan y fflamau. Crefai hefyd arnynt dori ei aelod ymaith, oni ellid ei ryddhau ryw ffordd arall. O'r diwedd bwriasant raff am dano, a cheisient ei dynu ymaith pa un bynag a ddeuai yr aelod briw. edig yn nglyn wrtho a'i peidio: ond y pryd hwnw, disgynai darn arall o'r adeilad arno, ac a'i llwyr gladdodd ef ac amryw eraill fel y tybir, y rhai a safent yn agos iddo. O'r diwedd, dechreuai y fflamau wanychu o eisiau ychwaneg o ymborth; a dechreuid ar

[blocks in formation]
[ocr errors]

GWERTH ENAID: ADFYFYRIAD AR MARC 8. 36. "Pa leshad i ddyn, os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?” milyn neu y pryfyn, ond y mae yn dragywyddol. Mae wedi ei ffurfio i anneddu byd tragywyddol!

Mae y byd a'i negeseuon, neu y byd a'i bleserau, yn llyncu bryd meibion dynion mor llwyr, a phe byddai y fuchedd hon yn un dragywyddol ac y mae lluoedd yn dilyn eu herlyniadau gwageddol, hyd nes y mae gwasgfeuon angau yn eu hargyhoeddi mai tymmorol yw y fuchedd hon; ac yna (och! pan yw yn rhy ddiweddar) maent yn dechreu edifarhau, ac ochain am na buasai iddynt wasanaethu Duw, fel y gwasanaethasant eu hunain a'r byd: ac erbyn hyn y mae y pethau a berthynant i heddwch a dedwyddwch ysbrydol dyn yn ymddangos o'r pwys mwyaf, ac ystyriaeth o'r modd y darfu iddynt eu hesgeuluso yn gofidio eu calonau.

Mae gwerth enaid yn annhraethadwy. Ymddengys hyn os ystyriwn, 1. Ei deilliad. Nid o'r llwch y tarddodd; ond hi a ffurfiwyd mewn modd anuirnadwy, drwy anadl Duw. Gen. 2. 7.

4. Priduerth ei phwrcas. Nid âg arian neu aur y gellid prynu enaid: ond â gwerthfawr waed Iesu Grist, Mab Duw. Pa angel craff, pa gerub doeth, pa seraph pur, all draethu gwiwdeb y gwaed kwn?

5. Trefn ei hadferiad, ei dyddaniad, a'i diogeliad; sef drwy weinidogaeth yr efengyl, yr hon a ordeiniwyd i'r perwyl hyn yn neillduol :-trwy weithrediadau yr Ysbryd Glân yn dylanwadu y meddwl a'r galon: trwy wasanaeth angelion, yn gweinyddu i'w gy freidiau;-a thrwy brïodoliaethau Jehofa, y rhai oll ydynt ymrwymedig i amddiffyn a chadw yr enaid crediuiol i iachawdwriaeth dragywyddol. O drefu ryfedd! yr hon sydd yn adchwelyd yr anrhydedd uchelaf, ar ddoethineb a daioni dwyfol!

Rhaid gan hyny, fod colli un cyfryw enaid, yn golled anuhraethadwy, yn neillduol i'r dyn ei hunan! Ac y mae y perygl o golli enaid yn fawr iawn. Mae y perygl yma yn deillio oddiar dri o bethau:-Ei llygriad gwreiddiol : mae yn gwympiedig a llygredig.-Ei bod mewn cyflwr digymhorth, gan ei bod, nid

2. Ei galluoedd,—o gofi gynnwys millfioedd o feddyl-ddrychau hollawl wahaniaeth ol-o arbwyll, i ymresymu oddiwrth achos at effaith, &c.-ac o ewyllys i ysgogiad au yr hon yr ufuddêir yn ddioed, oddi eithr ei fod yn cael ei gwrthsefyll gan ryw achos uwch. 3. Ei pharâd; nid yw yn derfynol fel y yn unig yn wan; ond heb nerth-Ei gelyn

ion ydynt luosog a galluog, ac wedi eu harfogi oll âg arfau amrywiol ac angeuol.

Dichon y gwelem raddau o natur a mawredd y golled, ped ystyriem-Bod y dyn y pryd hyny yn colli yr hyn oll a ennillodd efe yn y byd hwn: oblegyd, ni ddichon efe ddwyn dim o'i oludoedd gyd ag ef i fyd yr ysbrydoedd. Mae yn colli gobaith gwynfydedig yr efengyl;-ni chwareua ei thannau pereidd-sain ar ei glust ef mwyach.— | Canmoliaeth a pharch ei holl gyfeillion; y bri hwnw a borthai ei falchedd yn unig, a lwyr ddiflana pan y trengo, ac nid adnewyddir byth yn y byd y mae efe yn myned iddo. Mae yn colli cyfeillach a chymdeithas y saint am byth, ac mwyach ni cha un cymnmhorth oddiwrthynt hwy. Y cynghorion a ddirmygodd ydynt yn adseinio yn ei glustiau fel sŵn taranau nerthol, ac y mae yn uchel gondemnio ei ynfydrwydd ei hun.—Mae goleuni y nefoedd yn cael ei gyfnewid am dy. wyllwch uffern, a gobaith yn darfod am dano yn dragywydd!

Bendigedig fyddo Duw, mae trefn o iachawdwriaeth a dïogeliad enaid, wedi ei llunio gan ddoethineb a thosturi anfeidrol. Mae y drefn hon yn cynnwys pedwar o bethau neillduol, sef adgenedliad, neu enedigaeth newydd, ffydd yn ngwaed cymmodlawn a chyfiawnder perffaith Iesu Grist,―edifeirwch ar egwyddorion efengylaidd,-a sancteiddrwydd calon ac ymarweddiad ; yr hwn sancteiddrwydd sydd effaith undeb â'r Iesu bendigedig, a chyfrannogiad oddiwrtho ef, fel pen bywiol ei bobl grediniol.

"Pa

Gan mai fel hyn y mae pethau yn bod, anwyl ddarllenydd, os gelli, mynega, lesâd i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?" Enaid colledig yw enaid mewn trueni, mewn trueni anocheladwy a thragywyddol.

Ystyria, fy nghyd-bechadur! Derbyn gy. nghor, a darbwyller di i ystyried y peth hwn yn bwysig. Dianc ar frys, nac edrych ar dy ol; brysia, dianc at Fab Duw, Iachawdwr dynion, a dywed, "Arglwydd, cadw fi, darfu am danaf.". ....OLIGOS.

|

[blocks in formation]

Nid yw Duw namyn attal dymuniadau enaid graol yma isod; ond efe a'u llawn ddigona uchod.

Llawer o honom ni a alarwn uwch ben

corphyn wedi i'r enaid ymadael o honaw; llawer mwy y dylem alaru uwch ben eneidiau y drygionus, y rhai ydynt wedi ymadael â Duw..... AWSTIN.

Megys na all afonydd orphwys nes dyfod i'r môr; felly ni ddichon eneidiau adgenedledig orphwyso a llawn ymddigoni, hyd oni ddeuant i'r nef.....FLAVEL.

Gwnaed enaid dyn, i rodio'r nefoedd fry : Rhŷ salw yw daearen iddo'n dŷ.

Mae yn debyg fod rhai meddyliau wedi eu cymhwyso at oruchwylion mawrion, ac eraill at rai bychain; y naill i hedfan fry, a thramwyo yr ëangderau, a'r lleill i'w cau mewn cyffin cûl. Mae rhai meddyliau mor ffrwythlawn, fel y gallant borthi yr adfyfyriad â chyflenwadau newyddion o'u hystôr ddarfelyddus yn wastadol; fel y mae rhai dinasoedd yn meddu cyflawnder o fewn eu muriau eu hunain, i ddiwallu y trigolion mewn gwarchae maith.

DR. JOHNSON.

Mae iachawdwriaeth un enaid o fwy o bwys, ac yn debyg i esgor ar ganlyniadau mwy pwysig nac iachawdwriaeth dymmorol breniniaeth gyfan, ïe, pe byddai dros ddeng mil o flynyddoedd; oblegyd daw yr adeg hòno i ben ryw bryd yn nhragywyddoldeb, pan fyddo yr un enaid hwn wedi oesi cymaint, ac y buasai holl ddeiliaid teyrnas gyfan, mewn olafiad diball i'w gilydd, a phob un yn byw ddeng mil o flynyddoedd. Gan

« PreviousContinue »