Page images
PDF
EPUB

Mi a fedrwn grybwyll am laweroedd o eiriau eraill sydd agos a myned ar ddifancoll, ac nid aml y clywir eu crybwyll, ond gan yr hen bobl yn unig, neu gan drigolion y mynydd-dir yn Arfon, Meirionydd, Trefaldwyn, a Cheredigion: y mae trigolion y trefydd gan mwyaf, wedi myned mor fursenaidd, mal braidd yr agorant eu gwefusau i siarad Iaith wiwglod ein hynafiaid, a lewyrchasant fel goleuadau dysglaer i addurno ac amddiffyn ein laith er ys mwy na dwy fil o flynyddau; ac och fi! ac och chwithau! fod dynion pensyfrdan tŵf heddyw, wrth geiso cadw a choleddu yr hen Iaith, yn ei thynu allan o'i llwybr priod ei hun i ddynwared llediaith chwithgam a dull ymadrodd y saeson, a dysgyblion Johana Southcott!! och fi eto! pa ham, os ydynt am wneuthur lles a chymwynas i addurno a choleddu yr Iaith, na

baent yn cymeryd y gwŷr mwyaf enwog a ysgrifenasant yn y Iaith, fel nod i gyfeirio ato? Er bod y Dr. William Morgan, y Dr. John Davies, o Fallwyd, Edmwnd Prys, y Dr. J. Dafydd Rhys, Moses Williams, Willian Gambold, Llewelyn Ddu, y Prydydd Hir, Goronwy Owen, Rhisiart Morys, a Gwilym Cybi, wedi meirw; y mae eu gwaith yn llefaru eto; ac y maent wedi gadael yr hen Iaith yn llithrig ac yn hyawdl ar eu hol.

Wele, fy hen gyfaill hawddgar, chwi a welwch fy mod yn lled-fyw, ac yn ewyllysio pob llwyddiant i'r hen Gymmraeg, ac yn dymuno eich llwyddiant chwithau, ac i'r eiddoch oll.

Eich hen gyfaill egwan,

Llys y Brain, Mawrchwyth yr 20ed 1821.

S. W. Prisiart.

TABULA BUDICHEIMONICA :

NEU

DDAROGANYDD TYWYDD TEG A GERWINO L.

YR HWN

Sydd yn dabl a ragfynega y tywydd drwy holl gylchdroadau lleuadol pob blwyddyn am byth.

Y tabl hwn, yn nghyd a'r sylwadau dilynol, ydynt ffrwythau llawer blwyddyn o sylw gweithredol; y mae y cyfan wedi cael ei adeiladu ar ystyriaeth ddyladwy o dyniad llywodraethol yr haul a'r lleuad, yn eu hamrywiol sefyllfäoedd, mewn perthynas i'r ddaear; a gwneiff hwn, trwy olrheiniad syml, ddangos i'r sylwedydd pa fath dywydd a fydd yn fwyaf tueddol i ddilyn cyfnewidiau y lleuad yn y naill neu'r llall o'i chwarterau, a hyny mor agos i wirionedd, fel nad yw ond anfynych iawn yn methu.

[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

SYLW-NODAU.

DIDYMUS.

ydwyf yn dywedyd i chwi, gwnewch iwch 1. Pa nesaf bynag y bydd amser cyfnew-gyfeillion o'r mammon anghyfiawn, &c.' idiad Yr eiddoch, y lleuad, y chwarter cyntaf, y llawn Ilonaid, neu'r chwarter olaf, i ganol-nos, tecaf oll y bydd y tywydd yn ystod y saith niwrnod dilynol.

2. Y cyfwng i'r cyfrifiad hwn a gymer i fynu o ddeg o'r gloch y nos, hyd ddau,

boreu dranoeth.

3. Pa agosaf bynag i ganol-dydd, neu'r prydnawn, y dygwydd ymddangosiadau y leuad, garwaf o lawer y gellir dysgwyl y tywydd, am y saith dydd canlynol.

4. Y cyfwng i'r cyfrifiad hwn a gymeri fynu o ddeg yn y boreu hyd ddau yn y pryd

nawn.

Cyfeiria y sylwadau hyn yn fwyaf neillduol i'r hâf, er eu bod yn effeithioli yn gyffelyb yn y gwanwyn a'r cynhauaf.

5. Os dygwydd cyfnewidiad y lleuad, y chwarter cyntaf, y llawn llonaid, neu y chwarter olaf, yn ystod chwech o'r oriau prydnawnol, hyny yw, o bedwar hyd ddeg, yna dilynir hyny gan dywydd teg: ond y mae hyn yn gorphwys yn ymddibynol ar y gwynt, fel y sonir yn y tabl.

6. Er bod y tywydd, oddiwrth amrywiol achosion, yn fwy ansefydlog yn niwedd y cynhauaf, trwy y gauaf, ac yn nechreuad y gwanwyn, eto, yn y cyffredin, y sylwadau blaenorol ydynt gymhwys i'r amserau hyny. 7. I ddaroganu yn gywir, yn enwedig yn yr amgylchiadau hyny pryd y byddo y gwynt yn flin, dylai y sylwedydd fod yn ngolwg iar wynt dda, wrth ba un y cyssylltwyd pedwar pegwn pengraddol y nefoedd yn gyson. Gyda'r rhagofal hwn, ni thwyllir ef ysgatfydd byth wrth ymddiried yn y tabl.

Wyddgrug. Barchedig Syr,

Byddaf fi a llawer eraill yn dra diolchgar i chwi, ys yw yn bossibl cael coffddau o weision ffyddlawn Crist, y rhai ydynt adwriaeth yn eich Cyhoeddiad clodwiw, am yn gorphwys oddi wrth eu llafur er ys llawer dydd; sef y Parch. John Brown, o Haddington, a'r Parch. Thomas Boston; y rhai a fuant yn llafurus yn eu dydd, ac ydynt wedi marw yn llefaru eto: ïe, rhai y mae cymaint o'u hysgrifau ac a gyfieithwyd i'r Omeraeg yn dra chymeradwy yn mysg ein cenedl.

Carur llwyddiant y Cynniweirydd.

Garedig Olygydd,

Dymunwn gael eglurhâd ar Datguddiad 21. I. Y rhan flaenorol o'r adnod. Beth sydd i ni i feddwl wrth nefoedd newydd a daear newydd?

Attebiad buan i'r gofyniad yma a fawr foddlonai ddiwyd ddarllenwr eich Cyhoeddiad enwog.

Gwir Garwr llwyddiant y Cynniweirydd.

ΑΤΤΕΒΙΟΝ.

Atteb i ofyniad Didymus, am eglurhad ar

Luc 16. 9.

golwg cyn hyn, ar yr Esponiad rhagorol a Efallai fod ein cyfaill Didymus wedi cael roddir allan gan y Parch. James Hughes, o bynag, nid yw yn anhawdd iddo ef na neb Lundain, ar y Testament Newydd; pa fodd arall o'n darllenwyr gael ei weled; am hyny 8. Nid rhaid i mi ond braidd grybwyll fod nyni a'i hannogem ef, ac eraill, i droi at y yn ofynol (i'r dyben i wybod am amser Cyyd yr ydym yn gweled y dull yr ymdrinia y geiriau, yn yr Esponiad dywededig: oblegwir cyfnewidiau y lleuad, y chwarterau, &c.)

cael amseroni, cyffelyb i'r un Mordwyol.

GOFYNION.

Mr. Golygydd,

Wrth ddarllen hanes yr Eglwys mewn amrywiol oesoedd, canfyddwn yn amlwg fod llawer o saint y Goruchaf wedi newynu i farwolaeth :-Pa fodd y cyd saif hyny a'r bendithion tymmorol sydd yn addawedig i'r saint yn yr Ysgrythyrau; megys y geiriau hyny, Esay 33. 16. ‘Ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr.' A phen. 65. 13. 'Wele fy ngweision a fwyttânt, a chwithau a newynwch' a lluaws yn ychwaneg o Ysgrythyrau a ellir eu nodi? Da genyf os bydd i chwi, neu rai o'ch gohebwyr dysgedig a deallus, egluro y dirgelwch hwn. GLAN CLWYD.

[blocks in formation]

Gwr Parchedig uchod, a'r adnod grybwylledig, yn gryno, eglur, a phriodol hynod; ac er i ni ymholi â naw neu ddeg o wahanol awdwyr ar y geiriau, ni welsom eu gwell yn ol ein barn ni, gan un o honynt.

Attebi ofyniad Gwir Garwr llwyddiant y Cynniweirydd am eglurhad ar Dat. 2. 1.

Mae y Parch. Thomas Scott, yn ei Esponiad ar y lle, â'i nodau ar 2 Pedr 3. 10–13, yn ymresymu yn gadarn i brofi mai ansawdd ogoneddus eglwys Duw yn y nefoedd, a olygid; a thrigfa wastadol y saint, i'r hon ni cha neb dderbyniad ond cyfiawnion. Cyffelyb hefyd yw barn Doddridge, Adam Clarke, ac Esgob Newton ar y geiriau. Doddridge a ddyweda, "Ond wrth bwyso y cyfan, rhaid i mi addef fy mod o'r un farn a'r Duwinyddion a olygant y geiriau yn ddarluniad arwydd-luniol o'r dedwyddyd a fwynâ y saint yn y nefoedd dros byth wedi yr adgyfodiad." Newton, 'Mae yn amlwg oddiyma, nad yw y nef newydd a'r ddaear newydd hon i gymeryd lle, hyd wedi y farn gyffredinol, &c.'

Y CANIEDYDD.

RHYDDHAD Y CAETHION.

Awst laf, 1834.

"Ti enwog rëolydd amserau a blwyddi, Tad bywyd holl anian a'i lluoedd i gyd, A phoethder addfedol, a melys oleuni,

A noddi farwolion yn mhob parth yn nghyd.

Pa ham ar dy gylchdro fel hyn y prysuri,
Yn llawen a gwenawl wrth adaw Eryri?
Oes genyt ryw newydd yn awr i'w gyhoeddi
Yn eithaf Gorllewin bar wynfyd i'r byd."
Oes, oes y mae genyf; fy mhelydr gym.
ysgwyd

Ag awyr iach Prydain; yr awyr y sydd Yn dadmer gefynau y Caethion a rwymwyd, A'u melys gyhoeddi o'u rhwymau yn rhydd. Yn India nis ffrwythaf I mwyach ei haeron; Nis duaf Negröaid gan wres fy mhelydron, Heb doddi'r cadwyni a'u dalient yn gaethion, A'u melys gyhoeddi o'u rhwymau yn rhydd!"

O, melys gan filoedd fydd cofio yr eirchion Yrasant yn wresawg i orsedd eu lor,

O blaid y gorthrymedig:-pan glywir y

caethion

Yn dyrchu gorfoledd dros donau y mor; Am y cyntaf prysurant â'r rhai wneir yn rhyddion,

I ddiolch i'r nefoedd am wrando'u herfynion, Cydnabyddant yr Arglwydd yn llwydd eu hamcanion,

Clodforant drugaredd eu Peryf a'u Por! Cyfodiad yr Huan yn ngherbyd y wawrddydd.

Yn cyflym brysuraw i oror eu gwlad, Ddysgwylia'r Negröaid mewn hoen y boreuddydd

Daeth Jubil i'r caethion,-daeth iddynt
ryddâad;

Ymddawnsiant yn ngoleu ei flaenaf belydron,
A nofia'u calonau mewn môr o gysuron,
Tra gwlychir eu gruddiau gan filfil o ddeigron
Am gyfrifeu henwau plith meibion eu Tad!
Nid llais y gormeswyr a chlonc y cadwyni
A glywir yr awron yn rhwygaw y nen;
Ond hyfryd orfoledd Negröaid yn dyrchu,
Am ddyfod o ddyddiau eu gorthrwm i ben;
Ennynant eu cerddi hyd benrhyn *Florida,
Adseinir eu gorhoen gan lenydd †Paria;
A ninau'r Prydeiniaid, tu yma i'r tonau,
Y'm barod i daraw ein uchaf Amen.
"Daeth rhyddid, daeth rhyddid i gaethion
yr India,

A ddygwyd drwy ormes o fynwes eu gwlad; Daeth rhyddid, daeth rhyddid, ymchwery'n calonau,

Os hir-oddefasom gaethiwed a brad.

Florida, Gwlad i'r gog. iynysoedd yr India orll. + Paria, Talaith i'r deau i'r ynysoedd cry bwylledig.

[blocks in formation]

Caf wasgu fy maban yn dyner i'm dwyfron,
A'i alw Fy maban!' heb unrhyw ofalon
Y dygir o'm gofal tosturiawl gan ladron,

I'w werthu i estron mewn dichell a brad! "Ni raid imi wrandaw hoff blentyn ladratwyd,

Wrth ymadael, yn llefain, 'Fy mam! O fy mam!'

Ucheldrem annuwiol y lleiddiaid a dorwyd, Daeth nefoedd a Phrydain i achub ein cam!

Ni raid i mi edrych ar fy chweirydd yn noethion

A'gwaedlyd, yn suddo dan fflengyll y gwynion, Na gwrandaw gruddfanau digalon beichiogion;

Daeth nefoedd a Phrydain i achub ein cam!

"Heb neb i ein bwgwth, cawn blygu mewn gweddi

At Arglwydd y bydoedd, ein Crëydd a'n
Rhi,-

Cawn wrandaw Cènadon y nef yn cyhoeddi,
Am aberth yr Iesu ar ael Calfari:
Cawn noddi'r oedranus, a gweini cysuron
Y nefoedd i'w enaid yn nydd ei ofidion,
A chynnal ei ben, tra y palla ei ddwyfron
A churo, wrth soddi yn nyfnder y lli.

"Cawn mwyach ymgeledd fel dynion rhesymol,

Rhag trais y gormeswyr gwrandewir ein

[blocks in formation]

Can's mwyach, ie mwyach nid ydym yn gaethion!

A'n rhyddid a fyna gyfiawnder i ni!

"Y nefoedd ar Brydain a daeno'i bendithion,
Ei dewrion a wylier gan engyl y nef;
I'w Brenin a'i Senedd, a'i hanwyl drigolion,"
Boed bythawl ddedwyddwch am wrandaw
ein llef.-

Gan oesau i ddyfod, O, boed melys gofion,
Os Prydain flaenorai yn masnach y duon,
Mai hi oedd y gyntaf roes ryddid i gaethion:
Ei muriau fo'n gadarn, a'i gorsedd yn gref!

"O Brydain anwylaf! ac nid rhyddid gwladol
Yn unig anfonaist i'r Negro bach du,
Tan drefniad y nefoedd, ein rhyddid ysbrydol
A yraist yn mreint.lyfr y nefoedd i ri:

Y Bibl i'n dwylaw, a duwiol Gènadau,
I ddangos yn eglur ei werthfawr drysorau.
A pheraidd gyhoeddi rhyddâad i'n eneidiau,
Trwy rinwedd caethiwed ein Prynwr mwyn
cu!

Caf hedeg o ryddid yr India i rodio
Hyd fryniau Caersalem yn nghwmni fy
Nuw;

A moli fy Mhrynwr, am iddo fy nghofio,
Am cànu fel eira er dued fy lliw :
Bydd uwch fy nghân yno, fil miloedd o
weithiau,

Nag ydyw am ryddid o ddynol gadwynau,
Am ryddid yn aberth fy lesu, fy Meichiau,
A chael o gaethiwed fy mhechod byth fyw!"
Glan Conwy.
I. D. FFRAID.

YR HANESYDD.

BUCHDRAETH YR ANGHYDFFURF.

WYR.

Y PARCH. SAMUEL CHARLES, M. A.

Ganwyd y gweinidog enwog hwn yn Ches. terfield, Medi 6, 1633. Efe a ordeiniwyd yn 1655, ac a ymsefydlodd ar y cyntaf yn Kniveton, ac wedi hyny bu yn trigo yn nheulu Sir John Gell, yn Hopton. Ac yn mhen rhyw gymaint o amser, efe a gafodd fywioliaeth Mickleover gan Syr John Curzon. Yr oedd ei bregethau boreuaf yn serchawg, synwyr-lawn, a llwyddiannus. Cadwai wyliadwriaeth fanol neillduol ar ei enaid ei hun yn wastadol, yn enwedig yn ei ymarferiad â dyledswyddau crefyddol, cyhoeddus a chy

frinachus.

Bu yn llafurio dan demtasiynau cryfion dros amser, yr hyn a gynnyddodd ei brofiad ysbrydol yn fawr. Efe a arferai gadw y dydd ei bwrwiyd o'i fywioliaeth, yn ddydd ympryd bob blwyddyn hyd ddiwedd ei oes. Pan oedd yn gadael y persondŷ efe a ysgrif enodd fel hyn yn ei ddydd-lyfr, "Er dy fwyn di, O Arglwydd, yr wyf yn gadael fy nhŷ; a chyn belled ag y gallaf fi ganfod i'm calon fy hun, er dy fwyn di yn unig y gadewais dai a thiroedd; a gobeithio y caf y can cymaint yn y byd a ddaw. Dywed. wyd am Abraham, iddo ef fyned allan heb wybod i ba le yr oedd efe yn myned; ac yr wyf fi yn sier fy mod I yn myned allan heb wybod i ba le."

Er iddo gyfarfod â llawer o gyfyngderau fel Anghydffurfiwr, hwy a sancteiddiwyd er ei lesâd ysbrydol. Efe a ddywedai yn ei ddydd. lyfr, Nas gallai ef wybod yn amgenach nad i uffern y buasai yn myned pe buasai yn cydffurfio. Efe a barâodd i bregethu yn achlysurol tra bu yn swydd Derby, ar ol ei droi allan.

Yn Belper a Hull y bu ei arhosiad hwyaf; a bu yn llafurio lawer o flynyddoedd yn y lle olaf, gyda ffyddlondeb, diwydrwydd, a chymeradwyaeth. O'r diwedd efe a garcharwyd yno, am yr hyn yr ysgrifenai fel hyn, "Carcharor er mwyn Crist! Arglwydd da! pa beth yw hyn i bryfyn tlawd! Ni chafodd pawb o`rsaint gyfryw anrhydedd. Ni dderch afwyd cymaint arnaf drwy y graddau a gef. ais yn y brif-ysgol, ag a wnaed drwy fy ngharchariad er mwyn Crist." Bendithiodd Duw ei lafur yn Hull mewn modd neillduol, a'i ymddygiad addfwyn a boneddigaidd yn y lle hwnw, a ennillodd barch iddo oddiwrth fawrion y dref. Ond pan ddaeth Iarll Plymouth yno, wedi ei wneuthur ef yn llywydd y dref, efe a anfonodd am y Maer a'r Henaduriaid, ac a'u cymhellai å llymder mawr i ddarostwng cyfarfodydd yr ymneillduwyr: ac a fygythiai ddwyn eu breintlen oddi arnynt os na wnaent. Un o'r Henaduriaid, Mr. Duncalf, a ddywedai wrth y Iarll, ei fod ef wedi sylwi lawer o flynyddoedd ar yr Ymneillduwyr a drigent yn eu mysg hwy, a gweled mai dynion duwiol, tangnefeddus oeddynt, a'u bod yn ddeiliaid ffyddlawn i'r brenin; ac am hyny, gan ei fod ef yn hen ddyn, ac yn myned i fyd arall, na fyddai ganddo ef un llaw yn eu herlid hwy. Ond ni ddarfu i hyn attal yr Iarll i wasgu y peth mor bell, fel yr anfonodd swyddogion y dref i ddal Mr. Charles a Mr. Ashley gweinidogion y cynnulleidfaoedd Ymneillduol yn y dref. Cafodd Mr. Ashley gymaint o rybudd o hyny, fel y diangodd o'r dref cyn i'r swyddogion ddyfod i'w dŷ: ond cymerwyd Mr. Charles, ac efe a ddygwyd o flaen y Maer a'r Henaduriaid, y rhai a'i bwriasant i garch

ar.

Darfu i'r rhyddid ymadrodd a arferodd efe o flaen y swyddogion, wneuthur rhai yn ddigofus wrtho; yr hyn pan glywodd, a bar,

odd iddo ysgrifenu hanes yr hyn ofl a ddywedasai, ac anfon cyfysgrifau i'w amrafael gyfeillion, fel na byddai iddo gael ei gamddarlunio. Yr ydoedd i'r perwyl a ganlyn. Chwefror 2. 1682, wedi ei ddwyn o flaen swyddogion tref Hull, efe a ddechreuodd fel hyn:-Wele fi yma, mewn ufudd-dod i'ch gwarant; pa beth yw eich ewyllys mewn per thynas i mi? Ond yr wyf yn attolwg ichwi ystyried cyn gwneuthur dim, mai gwaith diafol yw carcharu gweinidogion yr efengyl, ac nid wyf yn coelio y gellwch chwi wneuthur ei wasanaeth ef, a dianc rhag derbyn ei gyflog ef.

Hen. Nyni a ddysgwyliasem gyfarchiad gwahanol oddiwrthych chwi, Mr. Charles.

Mr. C. Pa ryw gyfarchiad a ddysgwyliech chwi oddiwrthyf fi foneddigion?

Hen. Cyfarchiad o heddwch; oblegyd mai efengyl y tangnefedd a ddylech chwi ei bregethu.

Mr. C. Mae hyny yn wir, a dychryn yr Arglwydd hefyd i bob rhyw bechaduriaid celyd anedifeiriol, a rhagrithwyr calon galed. Hen. Felly yr ydych chwi.

A

Mr. C. Ond fy meistri, a oes dim drwgweithredwyr yn Hull, heblaw dau o weinidogion yr efengyl, Mr. Ashley a minnau. oes yma ddim meddwon, tyngwyr, a halogwyr Sabbathau? Ie, edrychwch i'ch selerau, onid oes yno ddim o dwf, cynnyrch, a gweithrediad tiriogaethau brenin Ffrainc ?

Maer. Chwi a ellwch achwyn. (Ar hyn efe a archwyd i ymneillduo, ac wedi ei alw i mewn drachefn yn mhen ychydig, adnewydd. wyd yr ymddiddan fel y canlyn.)

Hen. Mr. Charles, a gymerasoch chwi y llwou o ffyddlondeb ac uchafiaeth?

Mr. C. Yr wyf yn barod i'w cymeryd. Hen. A ydych chwi mewn urddau sanctaidd yn ol trefn Eglwys Loegr?

Mr. C. Ni ddaethum yma i'm cyhuddo fy hunan.

Hen. A fyddwch chwi yn pregethu? Mr. C. Chwychwi a wyddoch pa beth a fyddaf fi yn ei wneyd

Hen. Onid ydych chwi yn trigo yn y dref? ac onid oes genych chwi dŷ yu Mhorth Mytton?

Hen. A ydych chwi yn galw y gweinyddiad o gyfreithiau y brenin yn waith gwrthun? Mr. C. Ond cyn y gweinyddoch gyfreithiau y brenin, (Duw a'i bendithio ef, ac a estyno ei oes ef, gan beri iddo fy ngorfucheddu I,) attolygaf arnoch fy ngwrando yn y peth hyn. Bu yn Lloegr rai a fuant uwch eu pennau na heb sydd yn Hull heddyw, (heb roi un anfri ar y teilyngaf o honoch) y rhai a grogwyd am weinyddu cyfreithiau y brenin. Hen. Mae hyn yna yn fradwriaeth.

Mr. C. Bradwriaeth! bradwriaeth! a'n holl groniclau, hanesyddiaethau, a llawer o'n llyfrau cyfreithiol, a'n gweithredoedd Seneddol yn adseiniaw o honaw. Ond os gweinyddwch chwi y gyfraith, gochelwch ei gor. weinyddu; canys y mae yn llym ddigon arnom ni eisioes.

Hen. Os gwnawn, gellwch ymofyn am eich meddyginiaeth.

Mr. C. Meddyginiaeth! Gwell genyf beidio bod byth yn glaf, na chael fy anfon i ymofyn am feddyginiaeth.

Hen. Pa bryd y crogwyd neb erioed am weinyddu cyfreithiau y brenin? Ni bu dim o'r fath beth erïoed.

Mr. C. Do; Empson a Dudley, a grogwyd yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Harri yr Wythfed, am weinyddu cyfreithiau y brenin yn amser Harri y seithfed. Ac am y gyfraith hon, yr hon yr ydych chwi am ei gweinyddu arnaf fi yn bresenol; fe'i cafwyd drwy Senedd o'r fath gyfansoddiad, fel mai trwy ddau bleidlais ei cariwyd, sef 105 yn erbyn 103.

Hen. O ba ryw gyfansoddiad yr oedd y Senedd hono? Onid oedd hi yn gyfansoddedig o frenin, arglwyddi, a chyffredin,

Mr. C. Oedd, oedd, oedd!

Hen. Nid anfonasom am danoch yma i bregethu i ni.

Mr. C. Yr wyf yn tybied fod arnoch chwi eisiau rhyw un i ddweyd y gwir i chwi.

Hen. Mae genym ni eglwys Wrthdystiawl, a gweinidogaeth Wrthdystiawl.

Mr. C. Hir, hir, hir ei mwynhäoch. Eto yr wyf yn attolwg i chwi oddef i mi ddywed. yd hyn wrthych; yr oedd gan yr Iuddewon eglwys wedi ei sefydlu gan gyfraith Duw ei hun, a gweinidogaeth wedi ei sefydlu trwy gyfraith, etto, darfu i'w gwaith yn dystewi, yn carcharu, ac yn llofruddio ychydig bysgodwyr tlodion a anfonasid gan y Pryniawdwr i bregethu yr efengyl dragywyddol, dynu barn Duw arnynt, yr hon nid yw wedi gordyferu arnynt hyd heddyw, er eu bod dani er's mwy nac un cant ar bymtheg o flynyddoedd bellach.

Mr. C. Chwi a ellwch ddywedyd cystal a minnau. Ond foneddigion, cyn y cadarnhäoch ddedryd wrthun, byddai yn dda i chwi ystyried pleidleisian senedd ddiweddaf Westminster, o anrhydedd anfarwol. "Penderfynwyd, Fod rhoddi y deddfau cospawl mewn gweithrediad ar yr Ymneillduwyr gwrthdyst-phen iawl, yn ofidus i'r deiliaid, yn gefnogaeth i babyddiaeth, yn wanychdod i'r grefydd Wrthdystiawl, ac yn beryglus i'r freniniaeth." Hen. Nid eu pleidleisiau angeuol oeddynt. Mr. C. Eu pleidleisiau angeuol oeddynt. Hen. O ran y Pabyddion yr amcanwyd hwy. Mr. C. Yn mhlaid yr Ymneillduwyr Gwrth dystiawl y cymeradwywyd hwynt.

Hen. Nid am ddystewi yr apostolion; ond am groeshoelio Crist y mae y farn arnynt.

Mr. C. Mae hyny yn wir mewn rhan; ond ni lanwyd mesur eu hanwiredd, ac ni ddygwyd digofaint Duw arnynt hwy a'u hâd i'r eithaf, hyd oni warafunasant hwy i'r apostol

« PreviousContinue »