Page images
PDF
EPUB

iwed i dir eu tadau; ac y mae hefyd yn cynnwys annogaeth gref i'r holl rai a gredant yn Nghrist, i lynu yn eu gyrfa ysbrydol, er lluosoced a llymed yw profedigaethau y fuchedd hon; o herwydd eu bod yn sicr o gael myned i mewn i'r orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw, mewn amser priodol. Paxton.

CWPPAN DEWINIAETH JOSEPH.

Gen. 44. 5. "Onid dyma'r cwppan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr aferai ddewiniaeth wrtho?"

un wlad hefyd ac yr oedd Joseph yn llywodraethu gynt. Yn awr, er nad yw yn dra thebygol yr arferai Joseph ddewiniaeth o un rhyw, eto dichon fod rhyw ddylanwad goruwch-naturiol yn cael ei briodoli i'w gwppan ef; oblegyd y mae lle i feddwl fod y traddodiad a grybwyllwyd uchod, hyd yn nod yn hynach nac amser Joseph: a chan fod yr holl orchwyl a grybwyllir yma, wedi ei amcanu yn unig i dwyllo ei frodyr dros amser byr; gallai gymeryd arno ddewinio a'i gwppan, cystal ag y cymerai arno gredu ei bod wedi ei lladratta ganddynt hwy. Gan hyny defnyddiai y golygwr y gair nachash, yn ei ystyr briodol (edrych yn ddyfal, ymofyn,) "Onid dyma y cwppan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yn yr hon yr edrychai yn fanol? Ac felly y dywaid Joseph hefyd, "Oni wyddech chwi y byddai i wr fel myfi, (yn meddu y fath gwppau) edrych yn ddyfal a manol iddi hi ?"

Josephus, yr hwn oedd Iuddew ei hunan, ac o ganlyniad yn dra hyddysg yn iaith yr Hen Destament, a ddychymygai mai unig feddwl Joseph wrth roddi y cymeriad hwn i'w gwppan, oedd, y byddai iddo ddewinio, neu wneuthur prawf drwyddi o ffyddlondeb a chyfiawnder ei frodyr. Ant. Jud. lib. ii.

Dywedai Dr. Clarke, fod dewinio drwy gwppanau yn arferiad ffynnadwy yn mysg yr Asiaid er cyn cof; ac o ddiffyg gwybod hyn y darfu i esponwyr dreulio llawer o lafur dysgedig gyd a'r geiriau uchod, i geisio eu dwyn i'r cyfryw ystyr a fyddai yn gydwedd rhediad ac amcan yr hanes, ac a weinyddai i waredu Joseph oddiwrth y cyhuddiad o arferyd swyngyfaredd a dewiniaeth. Mae traddodiad yn y dwyrain, dechreuad yr hwn a gollwyd mewn hen oesoedd cyn cof, fod CWPPAN, yr hon a fuasai yn nwylaw amrafael bennaethiaid olynol, i'r hon y perthynai y rhagoriaeth o ddangos yr holl fyd a'i weithredoedd oll, o'i mewn. Gelwir y gwppan Jami Jem-ch. 6. s. 7. sheed, cwppan Jemsheed, brenin tra hen o Persia, yr hwn a gymmysgwyd gan haneswyr a beirdd diweddar, â Bachus, Solomon, Alexander Fawr, &c. Dywedant fod y gwppan hon wedi ei chael yn llawn o Elixir anfarwoldeb, wrth gloddio i osod sylfaeni Persepolis. Mae y beirdd Persiaidd yn llawn o gyfeiriadau at y gwppan yma; yr hon o herwydd ei rhagoriaeth o arddangos y byd

a'i holl weithrediadau, a alwent, Jam, jehau, nima; “ Y gwppan a ddangosa y byd," ac i'r wybodaeth a dderbyniai eu hen bennaduriaid drwyddi hi, y priodolent eu llwyddiant mawr yn yr oesoedd gynt; gan eu bod drwyddi yn adnabod pob peth a fu, sydd, ac a ddaw.

LLYFR Y BYWYD. DAT. 3. 5.

"Yn China, arferir rhoddi enwau personbarn, ar ddau lyfr gwahanol, y rhai a elwir au a brofir am gamweddau mewn llysoedd yn llyfr y bywyd, a llyfr marwolaeth: y rhai a ryddheir, neu y rhai na cheir yn euog o farwolaeth am eu camweddau, a ysgrifenir yn y cyntaf; a'r rhai a fernir yn euog o farwolaeth, a ysgrifenir yn y llall.

awdwr gan ei weinidogion, ac y mae ganddo Cyflwynir y ddau lyfr yma i'r amberef fel pennadur, hawl i dynu unrhyw enw o'r naill lyfr neu y llall; i roddi y byw yn mysg y meirw fel y byddo farw; neu y marw, hyny yw, y dyfarnedig i farw, yn mysg y byw, fel ei cadwer. Fel hyn, efe a noda ryw nifer pennodol o lyfr y bywyd, neu o lyfr marwolaeth, yn ol ei ewyllys penllywyddol, ar hyfforddiad ei weinidogion, neu ar eiriolaeth cyfeillion."-(Clarke.)

y CWMWL BYCHAN. I Bren. 18. 44.

Mae llawer o'r tywysogion a'r llywodraethwyr Mahometanaidd eto yn hòni eu bod yn cyrhaedd gwybodaeth am bethau a fyddant drwy gwppan. Pan oedd Mr. Norden yn Derri, y parth pellaf o'r Aipht, mewn sefyllfa dra pheryglus; dywedai Arab galluog ac anfwyn, mewn dull bygythiol wrth un o'r bobl y rhai a aufonasai Mr. Norden atto; y gwyddai efe pa fath bobl oeddynt, oblegyd ei fod ef wedi ymgynghori â'i gwppan, ac wedi deall wrthi, mai hwynt-hwy oedd y bobl Mae y Parch. R. Walsh, LL. D., yn yr am y rhai y rhagfynegasai un o'u prophwydi, hanes a gyhoeddodd o daith o Gaer Cwsteny deuai Ewropiaid dan gudd, ac yr aent i yn i Loegr, yn sylwi y byddai yn hollol anbob parth o'r wlad; gan chwilio i mewn i mhossibl i ddinas fawr hanfodi yn y fan yr ansawdd y wlad, ac dygent luoedd o oedd Caer Cwstenyn, heb arfer rhyw foddEwropiaid eraill gyda hwy, y rhai a ores- ion celfyddydawl i gyflenwi diffygion natur gynent wlad, ac a ddiwreiddient y genedl o ddwfr. Y moddion cyntaf a ddefnyddient oddiar wyneb y tir. Wrth hyn nyni a ydoedd dyfr gistiau, neu ffynnonau mawrwelwn fod y traddodiad am y gwppan ddewin-ion wedi eu gwneuthur wrth waelod y tai, i iaeth mewn grym parâus, a hynny yn yr dderbyn a chadw y dwfr gwlaw a ddisgyno

iddynt yn y ganaf: ond yr oedd yn angenrheidiol i ddynion fel y Tyrciaid, y rhai y mae dwfr o gymaint gwasanaeth iddynt mewn ystyr grefyddol cystal a naturiol; a'r rhai a arferant gymaint o hono at olchiadau cystal ac i'w yfed, gael cyflenwad llawer helaethach o hono nac a ellid ei gael yn y modd yma: o herwydd pa ham, y mae ganddynt ddyfr-leoedd mawrion wedi eu gwneuthur yn y mynyddoedd, uwch glanau y Môr Du. Mae cawodau a ffrydau yn dra chyffredin yn y parthau hyn, a pha le bynag y gwelir ffrwd fechan yn treiglo i'r dyffryn, cyfodir gwrthglawdd ar ei thraws yn ei phen isaf, yr hyn a bair i'r dwfr adchwelyd yn ei ol; a ffurfio llyn mawr o ddwfr. Gwynebir y gwrthglawdd yma yn gyffredin â cherrig nadd, ar y rhai y bydd lluaws o gerfiadau, a lluniau hynafiaethol, yr hyn sydd yn achosi golygfa ardderchawg.

Cludir y dwfr ar hyd y bryniau drwy bib. ellau o bridd-feini; a phan fyddo glynoedd ar y ffordd, mae ganddynt ddyfr-gludai dyrchafedig tra godidog.

Treuliai y gwr bonheddig uchod ddiwedd y flwyddyn 1828, yn agos i un o'r rhai mwyaf o'r dyfr-leoedd uchod; ac efe a sylwai fel hyn;-"Buasai yr haf o'r blaen yn hynod o sych, ac ymddangosai oddiwrth dablen a gadwn, na wlawiasai o'r 4ydd o Ebrill, hyd yr ail o Dachwedd, oddieithr ychydig gawodau mân. Erbyn hyn yr oedd y dwfr yn y pydewau yn isel a lleidiog, a dechreuai y Tyrciaid frawychu. Anfonid y dwfr-beiriannwyr allan, dilynais hwynt at rai o'r pydewau, lle y mesurent y dwfr, a chawsant nad oedd ynddynt ddim mwy na digon i ddiwallu y ddinas dros bymtheng niwrnod Gellir barnu am ddychryn a thrallod saith gan mil o ddynion, ar gael eu hamddifadu mor fuan, o elfen mor angenrheidiol, nid yn unig at eu gwasanaeth teuluaidd, ond at eu gwasanaeth crefyddol hefyd; heb un possibl i'w gael ffordd yn y byd. Offrymid gweddïau yn y temlau, ac edrychid yn fanol tu a'r nef. Mae annewidioldeb pethau yn y Dwyr. ain, a'r eglurâd a roddant ar ysgrifenadau yr amser gynt, yn un o'r pethau mwyaf hy. fryd a fwynheir yn y gwledydd hyn. Rhagnodir dynesâd gwlaw yn y gwledydd hyn, megys Syria, yn barâus, drwy ymddangosiad cwmwl bychan, tywyll, tew, yn crogi uwch ben y mòr Euxine, neu y Propontis. Bydd un o'u hoffeiriaid yn sefyll ar ben mynydd y cawr; a phan y gwelo y cwmwl, bydd yn cyhoeddi ei ddynesâd, fel y gwnai Elias o ben Carmel gynt. Minnau a ddringais i fynu i'r un lle un diwrnod, a gwelwn yr offeiriad ar wyliadwriaeth, ac edrychais tu a'r mòr, ac wele gwmwl bychan fel cledr law gwr, yn dyrchafu o'r môr, ac mi a brysurais i waered, rhag i'r gwlaw fy rhwystro. Ac mewn gwirionedd dilynid ef yn y fan gan lawer o wlaw, a gwaredwyd y Tyrciaid oddiwrth gyfyngder gorflin,"

GWYBODAETH O DDUW.

Duw yn ei Fab, Duw mewn cyfammod â ni yn ei Fab, Duw wedi ei wisgo â gras a thrugaredd, yn dysgleirio yn ei addewidion yn Nghrist, yw y Duw y dylem lafurio am ei adnabod; a phan gyrhaeddom y wybod aeth hon am dano drwy ei ras ef, nyni a allwn ymogoneddu yn ostyngedig yn y wybodaeth hono. "Yr hwn a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr ARGLWYDD a wna drugaredd, barn a chyfiawnder ar y ddaear: o herwydd yn y rhai hyny yr ymhyfrydais." Jer. 9. 24.

Mae rhai yn olrhain Duw yn ei weithredoedd ; ac y mae llawer o'i ogoniant yn dysglaerio yn ngwaith ei ddwylaw, a diau mai ein dyledswydd yw sylwi arno. Ond pa beth yw yr holl ffrwyth o'r myfyrdod yma yn unigol? Dim ond gwneuthur dynion yn anesgusodawl, Rhuf. 1. 20. Nid yw y goleuni yma o wybodaeth gogoniant Duw, ddim amgen na goleu gwan ac oer. oes na gwres na gallu ynddo. Ni chyrhaeddodd neb erioed wybodaeth achubol o Dduw, drwy fyfyrio ar lyfr creadigaeth a rhagluniaeth yn unig; er y gall gwir gristion fy fyrio arno, a derbyn budd drwyddo wedi adnabod Duw, neu yn hytrach ei adnabod gan Dduw. Gal. 4. 9.

Nid

Trachefn, y mae rhai yn myfyrio yn nghyfraith sanctaidd Duw i geisio ei adnabod ef; ac y mae ei gyfraith yn cynnwys amlygiad gogoneddus o Dduw; ond amlygiad o hono fel Duw sanctaidd, cyfiawn, yn casâu pechod, yn gwahardd pechod, ac yn cospi am bechod, ydyw. Yma, y mae efe yn ymddangos fel y Barnwr ofuadwy. Ni allodd un dyn erioed, ac ni all un dyn byth, gael adnabyddiaeth achubol o Dduw yn ngoleu deddf yn unig. Ni ellir cael aduabyddiaeth achubol o Dduw yn un màn, ond yn wyneb amlygiad o hono fel Duw yr Achubwr; ac yn wyneb Iesu Grist yn unig y gwneir yr amlygiad hyny.

Yn mhellach, mae rhai yn ceisio adnabod Duw, yn, a thrwy ei ordinhadap; y trefniadau a'r gosodiadau gwerthfawr a roddes efe i'w bobl, i'w gwerthfawrogi a'u defnyddio; drwy y rhai y mae y budd mwyaf yn deillio o'u iawn ddefnyddio, dan fendith yr hwn a'u hordeiniodd. Ond, y mae yn ofynoł i ni ddëall, mai megys yr oedd rhinwedd holl ordinhadau yr Hen Destament yn gorwedd yn eu perthynas â'r Messiah, ac yn eu gwaith yn cysgodi Crist i ddyfod, felly y mae holl rinwedd ordinhadau y Testament Newydd yn gynnwysedig yn en perthynas â Christ, yn ei osod allan fel un wedi dyfod. Gan hyny, os myn neb chwilio am adnabyddiaeth achubol o Dduw trwy ordinhadau yr efengyl, heb ystyried Crist ynddynt, efe a fydd mor sicr o fod yn golledig â'r Iuddew cnawdol, dienwaededig o galon. Jer. 9. 26. Rhuf. 2. 28, 29. Phil. 3. 3.-Traill.

YR ATHRAW.

DARLITH AR FUDDIOLDEB YR YS- | oedd, tyfiant llysiau a phlannigion; pwysau

GOL SABBATHAWL.

awyr, ac amrywiol naturiaethau daear, meteloedd, dyfroedd, a chrëaduriaid, er fod y gwybodaethau hyn yn dda; eto, yn mŵnglawdd yr ysgrythyrau y gorphwys gwir ddoethineb. Am gywraint ranau yr ymad. rodd a'u troellau dyryslyd, ni wn i pwy a'n deall i berffeithrwydd. Megys yn gyntaf, Trawseuw, Metonomy, yr hon a arfer weithiau y lle am y trigolion, megys y dywedir, y byd drwg, pan olygir trigolion y byd. 2. Gwatwargerdd, Irony, yr hon a arferodd Elias at brophwydi Baal. 3. Trawss-ymudiad, Metaphor, megys pan rodder y naill gyffelybiaeth wrth y llall; felly Crist a ddywedodd, Myfi yw y winwydden: chwithau yw y cangenau, a thrachefir Fy nghorph i sydd fwyd yn wir: a'm gwaed i sydd ddïod yn wir: yr hyn sydd mewn golygiad, gyffelybiaeth gymhwys. 4. Cyforddwyn, Synecdoche, pan enwir y cyfan yn lle rhan, a'r rhan yn lle y cyfan. Felly dywedir i Caesar drethu yr holl fyd, pan na olygir ond rhanau amberodraethol Rhufain yn unig. Efallai mai buddiolach a fyddai gadael y pethau hyn heibio heb ymyraeth a hwynt gan yr athrawon, i ofal a diwydrwydd yr ysgoleigion: gan fwrw attynt y pethau mwyaf angenrheid

YN mhlith yr amrywiol enwadau crefyddol o fewn Cymmru, dinam genyf feddwl na bu un drefn mor fuddiol, ac mor adeiladol er cynnal a chwanegu gwybodaeth yn yr eglwysi â'r Ysgolion Sabbathawl. Serfyll, gwageddol, a diddym y cyfrifaf ddywediadau y rhai hyny pan cofn floeddiant; ie, pe baent dduw. inyddion, 'Ffolineb yw yr ymarferiad.' Pa le mae yr ychydig nifer fel y galwant eu hunain, a honant hyn? Y nesaf peth i wadu anhebgorol angenrheidrwydd o'r ysgolion hyn, yw dàl ar unwaith mai mamaeth duwioldeb yw annwybodaeth. Och! na fydded neb o Gymmru yn euog o hyn byth. Barnwch oll, pe byddai teulu i gael eu trosglwyddo yn mhen ychydig ddyddiau, o'r wlad hon dros yr ëang foroedd i drigfannu i Zealand Newydd, am ystod eu hoes, oni fyddai awydd-fryd ynddynt, ac yn angenrheidiol iddynt gael rhyw wybodaeth am ansawdd y wlad a'i thrigol ion cyn eu mynediad oddi yma iddi: diau y cydsynia pob meddwl pwyllog a rhesymol â hyn. Neu pe byddai rhyw bendefig goruchel o eithafoedd daear, wedi gadael yn ei ewyllys diweddaf i deulu tlodion, rifedi mawr o aur ag arian, yr hyn ar y goreu nid ywiol er eu llesâd yn y iaith iselaf ac esmwythond anшhuredd daear, oni ymholent bob un af, fel os effeithir ar eu meddyliau y deuont yn bersonol am ei ewyllys cymun: a pha yn wirfoddol i ymestyn at ranau sydd uwch. faint a fyddai wedi ei adael iddynt. Felly Ond am y rhai hyny na fynont addysgu os yw plant y byd hwn mor gall yn eu cen- plant ar y Sabbathau, ni wn i ра le Ꭹ edlaeth, pa faint mwy pryderus y dylem oll mae sail eu gwrthwynebiad, na pha beth a fod am yr hyn a berthyn i'n tragywyddol wnant a'r geiriau hyny,--Ni chelwn rhag eu sefyllfa? Yn y Bibl, yr hwn a elwir felly meibion, gan fynegi i'r oes a ddêl foliant yr oddiwrth y gair Groeg, BIBLOSs, y mae gen- Arglwydd, a'i nerth a'i ryfeddodau y rhai a ym hanes anffaeledig, er yn fyr, am y wlad wnaeth efe. Canys efe a sicrâodd dystioly byddwn oll ynddi cyn pen hir, a'r agwedd aeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Isy dylem fod ynddo cyn ein symud. Gan rael, y rhai a orchymynodd efe i'n tadau eu hyny, beth ynte mwy buddiol i flaenion ein dysgu i'w plant, fel y gwybyddai yr oes a cenedl idd ei astudio ar y Sabbathau, na'r ddêl, sef y plant a enid, a phan gyfodent y llyfr ardderchog hwn. Yn y Bibl, mae gen-mynegent hwy i'w plant hwythau: ym ddarlleniad cyflawn am ewyllys diwedd-gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio af Crist: yr hwn ac efe yn dragywyddol, ac gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymanfeidrol gyfoethog, a ddaeth er ein mwyn ni yn dlawd: fel y cyfoethogid ni drwy ei dylodi ef. Deuwch yn nes yr hynafgwyr, a'r bechgyn gwylltion, a fynwch chwi wir ddyddanwch? wele ef idd ei gael yn yr ysgrythyrau. A fynwch chwi wir oleuni, pan ddiffoddo canwyllau philosophyddion byd, a chyfoeth nad ewch byth yn dlawd? chwiliwch y Bibl, a chredwch ef, cewch anchwiliadwy olud na dderfydd byth. Clywch ieuenctyd, os mynwch fod yn ddoethion, na hy-raith yn awchus. Oblegyd yr un yw y derwch ar gyfansoddiadau enwogion Groegaidd, na neb dynion eraill am gylch-dröad y bydysawd, ansawdd gwledydd, a'u rhyfel

fel y

ynion ef." Psalm 87. 4-7. Gwel hefyd Deut. 6. 7. Hysbysa hwynt i'th blant. Y mae rhai yn darllen y geiriau Hoga hwynt ar neu i dy blant, fel y byddo iddynt gael dyfnach argraff yn eu cof.-Bibl Geneva. Y mae yn sicr mai yr un gair Hebraeg Sanan, a gyfieithir yma hysbysu, a gyfieithir yn pen. 32. 41. hogi. Hogi hefyd sydd ar ymyl y ddalen yn y lle hwn. Gair yn dangos y dylid bod wrth y gwaith yn astudio y gyf

ddeddf foesol i ni, ag oedd i'r Iuddewon gynt; a mwy o lawer i ni yw y sylwedd o'r hyn ni chawsant hwy ond cysgodau tywyll,

bod y tafod, yr aelod aflywodraethus hwnw, yr hwn a ddefnyddiasai efe i draethu peth. au cableddus, yn cael ei gospi mewn modd neillduol o herwydd hyny: oblegyd, nyui a ddarllenwn ei fod ef yn llefain am ddyferyn o ddwfr i oeri ei dafod, am ei fod yn cael ei boeni yn y fflam." Ar hyn, aeth

[ocr errors]

a gweled o bell yr addewidion. Ond yn awr, rhag chwyddo y llythyr hwn i ormod maintioli, gadawaf heibio luaws o resymau digonol o blaid addysgu yr ieuenctyd ar y Sabbathau. Craffwn ar ei buddioldeb, pe na bai ond yn hyn, sef mai plant yr Ysgol Sabbathol, y rhai a egwyddorir yn athrawiaethau gras gan amlaf, yw y rhai llarieidd-geneth fechan berthynol i'r teulu, tu ol i'r af, hynawsaf, a'r mwyaf cydwybodol a hawdd eu trin. Mawr yw awdurdod gair Duw ar gydwybodau dynion gwylltion, drwy eu gwareiddio a'u dwyn yn gymdeithasau heddychlawn o dan reolaeth egwyddorion cyfiawnder. Cyn dyfodiad yr efengyl i'n gwlad, dywed yr haneswyr cywiraf, mai trais, creulondeb, gwaed a dinystr, ydoedd y cyflawniadau yr ymffrostiai yr hen Gymmry yn ddynt: ni hauent eu tir, ond dringent fel y geifr gwylltion ar hyd ochrau creigiau, a chopau y mynyddoedd: ac ar y ddryg-hin llechent dan gysgod clogwyni. Eu benywod yn aml a gwympent i afaelion treiswyr cyf. rwys a gwaedlyd: ac o'r braidd yr adnabyddid eu tadau gan y plant a enid. Cysur llawer o deuluoedd a orweddai yn gwbl ar fympwy afresymol, a thymherau gorwyllt eu gelynion atgasaf. Os felly ansawdd Cymmru cyn pregethiad yr efengyl ynddi, onid tebyg yr un anian trigolion y canrif ddiweddaf, cyn dyfod sefydliad ar ysgolion Sabbathol, pan gyunalient amryw chwareuyddiaethau ac arferion ffiaidd a gwaradwyddus, hyd yn nod yn y mynwentydd ar orweddfâau y meirw?

Yn awr, fy anwyl gyfeillion o bob graddau, oedran ac addysgiadau, beth a ddywedwn ni, a ddaeth y cyfnewidiadau yn ein hoes ni? a pha fodd y mae bachgen deuddeg oed, uwch law ei wybodaeth i'r hen wr triugain, onid o herwydd rhagorfreintiau ei oes, ac arddelwad y Duw mawr o'i ordinhadau. Gan hyny, llwydd i'r sefydliad hwn yn mhlith pob enw dan y nef: nid yn unig er moesoli dynion, ond idd eu gwir ddychwelyd yn aelodau rheolaidd yn nheyrnas Crist. Parhewch gyda diwydrwydd yn yr arferiad gogoneddus: Y borau hauwch eich had, a phrydnhawn nac atteliwch eich llaw: Cauys ni wyddoch pa un a ffyna a'i hyn yma a'i hyn accw, a'i ynte da fyddant ill dau yr un ffunud. C—r—s.

M. P.

Y TAD CABLEDDUS YN CAEL EI AR

GYHOEDDI GAN EI FERCH. Fel yr oedd Mr. Solomon Carpenter yn cynnal cyfarfod crefyddol mewn tŷ annedd yn ngwlad Sussex, Jersey Newydd; efe a gymerai achlysur yn ei bregeth i wneuthur y sylwadau canlynol;-"Bum yn meddwl la. wer gwaith wrth ddarllen hanes y goludog a Lazarus, fod y goludog yn dyngwr mawr; a

drws, a dechreuodd wylo yn chwerw. Ei
thad wrth glywed y swn, a aeth yno i geisio
cael ganddi dewi; y gwr hwn oedd yn dra
thueddol i arfer ilwon ac iaith anweddus;-
"Fy merch," eb efe, "pa ham yr ydych chwi
yn wylo i aflonyddu y cyfarfod fel hyn?"
Ar y cyntaf gommeddai roddi unrhyw atteb;
ond wrth iddo wasgu arni am atteb, hi a
ddywedodd, "O fy nhad, a glywsoch chwi
yr hyn a ddywedodd Mr. Carpenter am y
gwr goludog? Mae arnaf ofn yr ewch chwi-
thau i uffern hefyd, oblegyd eich bod chwi
yn tyngu bob dydd." Yna y ceisiai y tad
gan y plentyn dewi yn fwy nac o'r blaen;
ond yn gwbl ofer. O'r diwedd efe a ddy-
wedodd wrthi hi os tawai hi ag wylo, na
thyugai efe byth mwy. "O'r goreu," medd
yr eneth, "os gwnewch chwi addaw na thyng-
wch chwi byth mwyach, yna mi a fyddaf yn
dawel." Efe a adnewyddodd yr addewid,
ac ymlonyddodd hithau. Wedi i'r cyfarfod
fyned drosodd, ymddangosai bron yn wall-
gof gan lawenydd, a nesâi yn llawen at ei
mam, gan ddywedyd, "O fy mam, mi a wn
ryw beth; ac fe wyr fy nhad ryw beth
hefyd." "Pa beth yw hyny fy mhlentyn;
deuwch a mynegwch i mi." "O fy mam,
myfi a wn, a'm tad a wyr," medd yr eneth;
ac yna parhai i ddangos ei llawenydd a'i
gorfoledd. O'r diwedd hi a ddaeth at ei
mam, a sisialai yn ei chlust, gan ddywedyd
fod ei thad wedi addaw na thyngai mwyach.

Ymroddes y tad i gadw ei adduned; ac ni chlywwyd mo hono yn arfer un math o lw ar un achlysur wedi y prydnhawn hwnw. Darfu i'r cerydd annysgwyliadwy uchod, oddiwrth ei blentyn, gael y fath argraff ar ei feddwl, fel y bu yn foddion i'w ddwyn i fyfyrio yn ddifrif-ddwys ar y canlyniadau prïodol i'w iaith anweddus, a'i ymddygiadau pechadurus. Ac efe a ddygwyd yn fuan i edifarhau yn ostyngedig, drwy ddylanwadau Ysbryd Duw ar ei galon; diwygiodd ei fuchedd, ac ymunodd â'r eglwys; ac y mae yn bresenol yn henadur llywodraethol, a goleuni dysglaer iawn, yn y cymmundeb cristionogol a'r hwn y mae efe mewn undeb.

New York Observer.

SATAN YN CERYDDU PECHOD. Mae sylw manol plant ar gamweddau eu hathrawon, a'r angenrheidrwydd o'u dysgu drwy esamplau da, cystal a chynghorion da, yn cael ei ddangos yn amlwg yn yr hanesion

canlynol. Fel yr oedd gwr boneddig ar un achlysur yn ymweled âg Ysgol Sabbatho! yn Aberdeen, yr oedd rhyw beth yn galw am iddo fyned drwy un o'r hëolydd ar amser addoliad cyhoeddus ar y Sabbath, lle yr oedd amryw blant yn chwareu pêl. Efe a aeth attynt, ac a ymresymodd a hwynt ar afresymoldeb y cyfryw ymddygiad; gan alw y pedwerydd gorchymyn i'w côf; ac y dylasent fod yn yr ysgol neu yn yr eglwys, yn lle bod yn chwareu yn yr hëolydd. Ar y cerydd yma, dechreuai rhai o honynt ymwasgaru; ond un hyfach na'r lleill, a ddywedai, "Pe buasech chwithau yn yr eglwys, ni welsech mo honom ni.”

Ar achlysur arall, yr oedd geneth wedi cael dimeu i geisio holiad-lith am hanner pris gan ei hathrawes,-(cymeradwyasent y drefn hon er cadw trysorau yr Ysgol rhag eu treulio yn rhy brysur, ac i attal y plant i fod yn rhy ddiofal am eu llyfrau ;)—ond yn lle hyny, hi a aethai i ryw fasnach-dŷ, ac a brynasai felys-fwydydd am dani.

Pan glywodd yr athrawes hyn, hi a alwodd yr eneth i fynu, ac a ddechreuodd ei galw i gyfrif. Ac heblaw crybwyll am anonestrwydd yr ymddygiad, hi a nodai y pechod y temtiasai yr eneth y masnachydd i'w wneuthur, drwy werthu ar y Sabbath. Edrychai yr eneth yn wyneb ei hathrawes, a dywedai, ‘Onid ydych chwithau yn gwerthu llyfr au ar y Sabbath?"

Dylai y crybwyllion uchod gludo gwersau grymus gyda hwy; a gellir eu cymhwyso ar lawer achlysur at athrawon yr Ysgolion Sabbathawl.-Gochel pob rhith drygioni a ddylem ni.

Lesson System Magazine.

|

ac a glyw fy nghlustiau. Nid oedd Ysgolion Sabbathawl pan gychwynais I ar fy mhererindod tu a'r nefoedd; crwydrai y plant i'r man y mynent, gan dori y Sabbath, a chyflawni pob rhyw ddrygau. Ac ar bryduhawn Sabbathau, pan fyddwn I ac ychydig eraill (oblegyd nid oedd ond ychydig y pryd hyny yn- -yn ofni yr Arglwydd) yn myned i gynnal cyfarfodydd gweddio mewn amrafael fanau, byddai yn anhawdd iawn myned yn mlaen gyd a'r gwaith, gan nad oedd neb o bonom yn abl i ddechreu canu yr emyn a roid allan. Ond, bendigedig fyddo Duw, pan elom i'r cyfarfodydd yma y dyddiau hyn, y mae ieuenctyd yr Ysgolion Sabbathawl mor deg a destlus eu gwedd, yn cyd foliannu eu Crëydd a'u Pryniawdydd, a chynted ag y rhoddom y llinellau allan, dyna yr organau mân yn dechreu tiwnio; fy meddwl yw, frodyr, plant pereidd-lais yr Ysgolion Sabbathawl; a mynych y dechreuant eu hunain, ganu y tònau a ddysgasant yn dda yn yr Ysgol; ac y mae eu lleisiau ieuainc mor beraidd, fel y bydd yn hyfryd gan fy nghalon eu clywed. A'r hyn sydd well na'r cwbl yw, bod genym bob rheswm i gredu fod lluaws o honynt yn byw yn ofn yr Arglwydd, ac wedi eu dwyn i wybodaeth gadwedig o'r gwirionedd. Bu yr Arglwydd, (medd yr hybarch siaradwr) yn gweithredu adfywiad yn ein Hysgol, ac y mae amrai o'r ysgolheigion henaf wedi ymuno yn barod âg eglwys Crist:

ac

mae arwyddion yn mysg yr athrawon a'r plant, eu bod yn pryderu yn nghylch cyflwr yr enaid. Frodyr, pan edrychwyf yn ol, ac ystyried ansawdd crefydd yn yr amser gynt, ac ystyried y rhyfeddodau y mae yr Arglwydd yn ei weithredu yn awr, nis gallaf ymattal rhag gwaeddi yn ddiolchus, "beth a wnaeth yr Arglwydd!" Yna eisteddai yr hen gristion; tra yr ymddangosai fod yr holl gynnulleidfa wedi cyfrannogi yn helaeth o'i deimladau diolchus am y defnyddioldeb y bu yr Ysgol Sabbathawl, a'i obaith llawen y bydd felly mewn amser dyfodol.

EDIG.

Monthly Teacher.

TYSTIOLAETH HEN WR. Cefais yr hyfrydwch yn ddiweddar o fod yn wyddfodol mewn cyfarfod cyhoeddus perthynol i'r Ysgolion Sabbathawl; lle yr oedd amryw o athrawon yr Ysgolion Sabbathawl cylchynol, a gweinidog y lle yn cymeryd rhan yn ngwaith y cyfarfod. Darfu i lawer o honynt, y rhai gan mwyaf oedd- Y GALAR PRIODOL AM ENAID COLLynt mewn gwth o oedran, gyfarch y cyfarfod; y rhai oll a ddygent eu tystiolaeth i fuddioldeb y Sefydliadau hyn, gan ddatgan iddynt hwy eu hunain, fel athrawon, dderbyn llesad mawr drwyddynt; galarent nad oedd y cyfryw sefydliadau yn nyddiau eu ieuenctyd hwy, a bendithient y Goruchaf am iddynt gael gweled eu sefydlu yn eu tymmor. Yna cyfododd hen wr penwyn i gyfarch y cyfarfod; ei lygaid a lewyrchent gan fywiogrwydd, a'i wyneb-pryd a arddangosai ei fod yn llawn llawenydd a diolchgarwch; ac efe a gyfarchai y cyfarfod i'r perwyl a ganlyn.-"Frodyr, yr wyf yn diolch i Dduw am i mi gael byw i weled y dydd hwn, a dymunwn ei foliannu am yr hyn a wel fy llygaid,

Pe byddai yn weddus coledd y fath ddychymyg, pa beth a fyddai cladd-udfäau enaid colledig? Pa le y cawn y dagrau cymhwys i'w wylo ar y fath olygfa? neu, pe gallem osod allan y trueni hwn i'w eithafion, pa nodau o dosturi a phryder a ystyried yn weddus i'r cyfryw achlysur? A fyddai yn ddigon i'r haul orchuddio ei lewyrch, a'r lloer ei dysglaerdeb? bod i'r cefnfor gael ei guddio â galar. wê, a'r nefoedd â sachlen? neu pe byddai i holl naturiaeth gael ei chynnysgaeddu â bywyd ac â galluoedd llafar, a allai hi anadlu uchenaid rhy ddofn, neu waedd rhy dreiddgar i ddynodi mawredd ac eangder y cyfryw drueni?-R. Hall,

« PreviousContinue »