RHAGYMADRODD. GYDWLADWYR SERCHOG, Wele gylch blwyddyn wedi treiglo o amgylch, er pan anfonasom ein cennad gyntaf i gynniwair yn eich mysg dan Ꭹ ffurf o Gyhoeddiad misol; ac yn awr wele ni yn anfon y deuddegfed allan, a'i neges yn lled gyffelyb i'w frodyr, sef ceisio boddio rhai, ac addysgu eraill. Ceisiasom ofalu ac amcanu at hyn yn ein holl rifynau, a gobeithiwn na bu ein llafur yn ofer, mwy nac y bu yn annerbyniol hollol ychwaith. Ymdrechasom i gadw pob sylwadau pigog, cecrus draw, ac e ddichon i ni ddigio rhai drwy wrthod cyhoeddi eu Gohebiaethau: ond ni chauasom ein dorau rhag unrhyw ysgrif a ymddangosai yn deilwng a chydwedd ag ansawdd ein Cyhoeddiad. Cawsom brofiad oddiwrth rai, eu bod yn "Garwyr llwyddiant y Cynniweirydd" mewn gweithred a gwirionedd; i'r rhai y dymunem ddychwelyd ein diolchgarwch diffuant am eu caredigrwydd: ond cyfarfu ein cenhadon gweiniaid ag awyr wenwynig yspryd pleidgar i radd au tra nerthol mewn rhai parthau; ar yr hyn ni sylwn ychwaneg na'n bod yn gobeithio na raid i ni fyw yn hir i allu gorfucheddu yr angenfil anghristaidd hwn yn Nghymmru; ie, yn Mrydain Fawr hefyd. Gallwn dystiolaethu yn ddibetrus, nad myned ar ffordd unrhyw Gyhoeddiad buddiol arall oedd ein hamcan yn cyfodi y Cynniweirydd i gychwyn, a dangoswn hyny drwy y cyfnewidiad a amcanwn ei wneyd yn enw ac ansawdd ein Cyhoeddiad ar ddechreu y flwyddyn newydd: oblegyd, er ein bod yn meddu lle da i ddysgwyl lluosogiad mawr yn nifer y derbynwyr a'r Gohebwyr at y Cynniweirydd y flwyddyn nesaf yn ol ei llun presenol; yr ydym yn dewis ei droi yn NEWYDDIADUR HANESYDDOL yn unig, fel na chaffo neb le i dybied ein bod yn ceisio ymwthio i randiroedd Cyhoeddiadau eraill. gyn Gan ostyngedig obeithio y cawn gefnogiad ein cydgenedl i ddwyn y Newyddiadur allan; fel y caffont un Papur Newydd misol rhad, yn eu hiaith, yr ydym yn cymeryd ein cennad oddiwrthynt y waith hon, Gan ein cyfrif ein hunain Eu gostyngeiddiaf wasanaethwyr, Y CYHOEDDWYR. Rhagfyr 1af, 1834. Anianyddiaeth Anian, rhyfeddodau .48, 139, 174 ... i wybodaeth.... Anwybodaeth ..221,252 .... 3 ..17, 105, 134 Casgledigaethfa Ysgrythyrol..209, 328, 368 118, 147, 178, 214, 243, 272, 307, 339, 370 .... |