Page images
PDF
EPUB

RHAGYMADRODD YR AWDWR.

AT

"Y DARLLENYDD.

GRAS, trugaredd, a thangnefedd aliosogo iti trwy Grist Iesu Wrth ystyried mor gynnorthwyol i'm gwladwyr a fyddai hyspysrwydd o'r pethau a ganlynant, ac nad adwaenwn i un Llyfr i'w gyfieithu ydoedd yn wahanredol yn amgyffred y cwbl o honynt, ymosodais i'w pigo allan o amryw lyfrau ; a chymmerais gwrs y wenynen i sugno llawer llys jeuyn i wneuthur hyn o ddilyn.* Cyd-ddwg dithau â'r fath grwybyr ag sydd ynddo.

Cawn weled yma siamplau pobl Dduw, a'r modd

Ego, Apis Matinæ

More Modoque,

Grata carpentis thyma per laborem

Plurimum, circa nemus uvidique

Tiburis ripas, operosa parvus

Carmina fingo.

...HOR. Od. iv. 2,

I, like the Bee, which, through the breezy groves,
With feeble wing and buzzing murmur roves,

Sits on the bloom, and, with unceasing toil,
From thyme sweet-breathing culls his flowery spoil,
Thns roam on rivers' banks and verdant plains,
Weaving, unheeded, these laborious strains.

See Francis.

Ꭹ carasant ei ewyllys ef, ac y cadwasant ei orchymmynnion; fel y bo i ni ganlyn y brisg a lygrasant hwy drwy lychfeydd profedigaethau y byd dryghinog hwn, a cherdded "y llwybr cul sydd yn arwain i orphwystra tragywyddol." Amlhäodd defaid Jacob wrth gyfebru o flaen y gwïail brithion, a dwyn ŵyn o'r un lliw â'r hyn a osodid iddynt i' edrych arno yn y cwtterydd o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuent i yfed.* Bydded i ninnau, wrth geisio ymddiwallu â gwybodaeth, iawn graffu ar Grist, a'i Ferthyroo Sanctaidd, y rhai y "dirisglwyd" pob pechod a mwyniant bydol oddiam danynt, fel y tebygom i'r " Gwyn" oedd ynddynt; ac y chwanego Gwir Gristionogion tebyg iddynt yn ein plith. Ni a ddeuwn i borfeydd gleision, os awn rhagom ar hyd ol praidd y Gwir Fugail † "Na fyddwn fusgrell, eithr dilynwyr i'r rhai drwy ffydd ac amynedd sy yn etifeddu yr addewidion:"‡ yn enwedig byddwn ddilynwyr i'n benafiaid, "megis y buont hwythau i Grist."§ Dodwn hawl i fraint a bonedd ein hên deidiau; sef, purdeb Ffydd Efangylaidd, a grym Duwioldeb.

Er mwyn hynny, fy Ngwladwyr anwyl, y rhoddais "hyn oddiwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr Iachawdwriaeth Gyffredinol, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y Ffydd, yr hon a roddwyd unwaith i'r Saint;" ïe, ym mhlith y Britaniaid. Yr oedd St. Paul yn hoffi Timotheus yn hytrach wrth "alw i'w gof y Ffydd Ddiffuant oedd ynddo

* Edr. Gen. xxx. 37-39. + Can. Solomon i. 7, 8. yi. 12. § 1 Cor. xi. 1. || Epist. Jud. 3.

+ Heb.

el, yr hon a drigodd yn gyntaf yn ei nain Loys, ac yn ei fam Eunice." Eled y Cymro yn hoff gan Dduw yn yr unrhyw fodd. Ac fel y dylem ddilyn rhinweddau yr ychydig o rai da ym mysg ein henafiaid, felly hefyd gochelyd pechodau y llaweroedd o honynt ydoedd ddrwg a ddug arnynt ddialedd dwys, ac a wnaethont "na bu Duw foddlon i'r rhan fwyaf o honynt; canys cwympwyd hwynt" yn ohir eu genedigaeth. "A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni,fel na chwennychem ddrygioni,megis ag y chwennychasant hwy. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd miloedd o honynt. Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'u distrywiwyd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a 'sgrifenwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd." Na fyddwcb fel eich tadau, y rhai y galwodd y Prophwydi arnynt, gan ddywedyd-"Dychwelwch oddiwrth eich ffyrdd drwg ac oddiwrth eich gweithredoedd drygion us -ond ni chlywent, ac ni wrandawent," nes i fygythion Duw eu goddiwes hwynt.

Darllen yn astud, a chydnabyddi nad yw Ffydd beth newydd, eithr hên; na pheth dychymmygol, eithr sylweddol; "a sicrwydd y pethau nad ydys yn eu gweled," Y rhai sydd ystyriol ar eiriau a gweithredoedd Duw, ac yn byw yn rasol, a dderbyniant gyflawn hyder yn ei ffyrdd ef, a'i orchymayunion. Arfera sanctaidd "ddiwydrwydd er mwyn

* Edr. 2 Tim. i. 5. † 1 Cor. x. 5—11. ‡ Zech. i. 4, 6. § Heb.

llawn sicerwydd gobaith hyd y diwedd."* I'w blant ufudd, ac nid i'w elynion anghymmodol, y". mae'r Duw doeth yn adrodd ei gyfrinach.

Gwelodd Duw yn dda roddi i mi amser i orphen yr hyn a ragfwriadaswn ei ysgrifennu ynghylch Rhinwedd y Ffydd, ac i ddatgan ei helynt hi beth" yn helaethach nag o'r blaen,† gan roddi ar lawr fwy o resymau y Prif Gristionogion nag a welaist gynt. Ac, o'i ddoeth ragluniaeth a'i ddaioni, gwnaeth y Mawrhydi Nefol i mi, drwy brofiad

go

[ocr errors]
[ocr errors]

hir yn fy nghyflwr fy hun, wybod siccrwydd am y prif bethau yr wyf yma yn eu cyfrannu i eraill.‡ ́+ Canys ar bob rhyw achosion cefais fy Arglwydd grasusol yn gyfryw i mi, ag y mae'r Ysgrythuraua yn mynegi ei fod Ef. I'w enw Ef y byddo gogon-: iant, ac i'th enaid dithau y byddo adeiladaeth; fel y byddech Gristion mewn gwirionedd, ac nid mewn lliw yn unig.

Y mae i mi achos arbennig i glodfori enw yr Hollalluog am ddwyn fy Ngorchwyl i hyn o byd; ac i'w alw EBENEZER,§ a dywedyd, "Hyd yma y

*Edr. Heb. vi. 11.

+ Two Editions had been printed in London, but this was enlarged and improved.

The Rev. Moses Williams, Vicar of Dyfannog in Brecknockshire, says, in his Catalogue of Welsh Books, "That Hanes y Ffydd was first printed in London in 1671, and again in Oxford in 1677." It must have been printed twice between 1671 and 1677, for the Oxford Edition has in English these words, "The Third Impression with Augmentation." It does not appear that it went thro' more Editions in the life-time of the pious Author. No Copy is to be seen of either of the two first Impressions,

§ EBENEZER, H. y. Maen y cymmorth, 1 Sam. vii. 12.

cynnorthwyodd yr Arglwydd fi." Attolwg na ddigied neb wrth hyn o lyfran; eithr ei dderbyn â'r un ewyllys ag yr wyf finnau yn ei ddanfon. Na friwa 'r llaw a estynno i ti arwydd o garedigrwydd, er gwaeled fyddo. Nid yw yn ddiarwybod i mi fod eraill yn y wlad a fedrasant wneuthur y rhan fwyaf o hyn yn well. Ond ni rèd y sûg o'r aeron, er pereiddied a chyflawned fyddont, nes eu dryllio a'u gwasgu. Os digwydd i'r cyfryw, "a hwy yn gwybod ofn yr Arglwydd," ymosod i "berswadio dynion,"* y mae iddynt er hyn ddigon o waith, a lle i'w wneuthur. Ac ui hwyrach i ryw un, o gariad i ti, neu o genfigen i mi, ysgrifennu ychwaneg ynghylch yr unrhyw bethau: pa fodd bynnag, gwna'r defnydd gorau o bob cynnorthwy.

Yr oedd yn o anhydyn gennyf fyned drwy'r daith hon, i geisio i ti hyn o hanes am beth gwerthfawr a fu ar goll, ac i hel ynghyd hyn o dystion yn achos Duw, nes i'w wïalen ef fy ngyrru, ac i'w ragluniaeth ef "osod angenrhaid arnaf, ac i gariad Crist fy nghymmell." O cofiwn yr hwn a fu farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt ac a gyfodwyd !" Bu foddlon gan Baganiaid wasanaethu eu pobl drwy ddirfawr boen a chaledi: ac os bu i'r cyfryw chwysu a gwaedu dros eu gwlad, nid yw ond peth bychan i Gristionogion ysgrifennu er ei mwyn.

Y Cymro caredig, oni chei lesâd wrth ddarllen,

Edr. 2 Cor. v. 11. + 1 Cor. ix. 16. 2 Cor. v. 11–15.

« PreviousContinue »